主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bryan Jones Llythyr Chattanooga
Canfu Bryan Jones o Hen Golwyn drysorau hanesyddol oedd yn ei gysylltu'n uniongyrchol ag un ryfeloedd mwyaf gwaedlyd yr Unol Daleithiau wrth ymchwilio i hanes ei deulu yn ddiweddar.

Yn eu plith, mae llythyr wedi'i ysgrifennu gan hen ewythr iddo o faes y gad yn ystod y Rhyfel Cartref a holltodd America yn ddwy rhwng 1861 ac 1865.

Un o F么n oedd Owen R Jones yn wreiddiol ac ysgrifennodd y llythyr yn 1863 tra roedd yn ymladd ger Chattanooga, Tennesee; lleoliad un o frwydrau mwyaf cyfnod canol y rhyfel. Ar ochr y Gogleddwyr, oedd yn gwrthwynebu caethwasiaeth, yr ymladdai Owen R, fel llawer o Gymry eraill America, a Chymraeg oedd iaith ei ohebiaeth.

Llythyr Owen R JonesFe'i ganed yn Aberffraw, yn 1835 ond fe ymfudodd i America yn 1855. Dilynai yn 么l troed ei frawd, William R Jones, oedd wedi hwylio i'r Unol Daleithiau ddwy flynedd ynghynt ac ymsefydlu yn Judson, Minnesota, lle roedd yn weinidog. Ato fo a'i deulu mae Owen, aelod 28 oed o 42ain catrawd Illinois, yn ysgrifennu o'r rhyfel.

Cyn ymrestru gyda'i ffrindiau yn 1861, roedd wedi bod yn byw yn Minnesota, New Orleans ac Oneida, Illinois, gan weithio hwnt ac yma ar blanhigfeydd a ffermydd.

Mae'n amlwg o'i lythyr ei bod yn haws ganddo ysgrifennu am yr Hen Wlad, ei deulu a'i obeithion am y dyfodol nag am erchyllterau'r brwydro.

Darllenwch y llythyr

Er ei fod yn s么n yn y llythyr am adael y fyddin pan fyddai ei gyfnod yn dod i ben ymhen mis, ailymrestru a wnaeth ar 1 Ionawr 1864 ac aeth y brwydro ymlaen am flwyddyn arall.

Owen R Jones a dau o'i blantOnd, yn wahanol i dros 620,000 o feibion eraill America, bu Owen R fyw drwy bedair blynedd a hanner o ryfela ac aeth ymlaen i wireddu ei freuddwyd o gael gafael ar 'bisin o dir' wedi gadael y fyddin. Aeth yn 么l i Illinois lle priododd cyn setlo ar fferm yn Kansas a magu teulu mawr.

Bu farw yno yn Barrett yn 1913 yn 78 oed.

Er mai Cymraeg gloyw oedd ar wefusau Owen R, roedd yr iaith wedi ei cholli o fewn cenhedlaeth. Pan ddaeth ar ymweliad 芒 Chymru yn 1909 gyda'i fab, Jacob O Jones, yn Saesneg y cofnoda Jacob ei argraffiadau o fro a gwlad enedigol ei dad mewn dyddiadur difyr tu hwnt.

Tra'n bwrw'r Sul yn Niwbwrch, ysgrifenna: "The most of them talk Welsh here. I would die of lonesomeness if it were not for Fred and Annie. Even my own father talks Welsh to me half the time now,"!

.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy