主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Derek Randall yn y Faenol Plentyndod yn y Faenol
Cafodd Derek Randall ei fagu ar St芒d y Faenol yn fab i yrrwr swyddogol teulu'r Duff. Mae'n cofio plentyndod ar st芒d llawn bwrlwm oedd yn fyd ar ei ben ei hun ac yn gartref oddi cartref i aristocratiaid enwoca'r cyfnod.
Bu'n siarad am ei blentyndod yn y Faenol mewn aduniad gyda rhai o gyn weithwyr y st芒d ynghyd 芒 Charlie Duff, yr aelod olaf o'r teulu i gael ei fagu yno. Fe ymddangosodd ar raglen arbennig ar 主播大秀 2 am hanes y Faenol yn ystod yr wythnos cyn yr Eisteddfod.

"Daethom i fyw yma ym mis Medi 1946 pan oeddwn yn naw mlwydd oed. Roedd fy nhad, George Randall, yn chauffeur i'r teulu ac mi ddaru fyw yma ar y st芒d tan iddo farw yn 1987.

"Daeth ein teulu yma o'r Isle of Wight yn y 1900au, efo'r Asheton-Smiths i'r Faenol ac roedden ni wedi bod yn weision iddyn nhw erioed. Syr Michael Duff oedd y diwethaf o'r Asheton-Smiths a fy nhad oedd y diwethaf o'r Randells i weithio i'r teulu

"Mae'r lle wedi newid ers i mi fyw yma - dydy o ddim fel oedd o, ac mae'n bechod. Pan roeddwn i'n byw yma, roedden ni fel teulu mawr, dim unigolion. Roedd yn lle strict i gael eich magu, ond eto, wrth sb茂o n么l, roedd yn ffordd iawn o gael eich dwyn i fyny - roedden ni'n cael ein dysgu i barchu pobl yn well na maen nhw heddiw.

"Roedd fy nhad yn strict gan ei fod yn gweithio i Syr Michael, ac roedd ganddo ofn i mi ddweud neu wneud rhywbeth o'i le rhag iddo gael y sac. Felly pan oedd Syr Michael adref doedden ni ddim yn cael mynd ar y lawnt nac i lawr y prif ddreif; roedd yn rhaid i ni ddefnyddio'r lodges eraill. Doedd na ddim tai cyngor yr adeg honno felly roedd dad yn byw mewn ofn o gael y sac gan nad oedd 'na unlle arall i fyw.

Derek yn siarad gyda Charlie Duff a chyn weithwyr eraill y st芒d yn mhlasdy'r Faenol"Pan ddaeth Charlie yma yn fabi roeddwn i'n 11 mlwydd oed a dwi'n ei gofio fo'n d诺ad. Nanny Rattle oedd enw ei nani ac roedd pawb ei hofn hi! Nanny Cave ddaeth ar ei h么l hi.

"Roedd y st芒d fel byd ar ei ben ei hun. Roedd y dreifs wastad yn werth eu gweld - ac mi fydden nhw'n tyfu grawnwin, nectarins ac eirin gwlanog yn y tai gwydr a llysiau yng ngardd y gegin. Roedd y lle mor l芒n a thwt, mae'n bechod gweld y lle wedi dirywio.

"Roedd lot o staff i wneud y gwaith i gyd flynyddoedd yn 么l. Roedd gan y st芒d drydan, l么ndri a llaethdy ei hun ac roedden ni'n cael pob dim o'r st芒d, doedd dim rhaid mynd allan i n么l dim.

"Yn 1947 pan gafon ni'r eira mawr doedden ni'n methu mynd allan am chwe wythnos ond roedd popeth yma i ni. Dwi'n cofio'r adeg yn dda - ges i sbario mynd i'r ysgol yn Felinheli am chwe wythnos!

"Rhan o waith fy nhaid oedd ll'nau'r dreifs ar hyd Bryntirion. Doedd fiw i ddeilen syrthio oddi ar y goeden - mi fydde fo yno'n syth i'w bigo fo fyny.

"Roedd fy nhad hefyd yn dreifio Syr Michael i bob man. Mi aeth i Ffrainc efo fo yn 1947 a dwi'n ei gofio fo'n dweud pan ddaeth o adra ei fod wedi gyrru Greta Garbo o gwmpas. Roedd hi ar ei gwyliau yn ne Ffrainc efo Syr Michael. Roedden nhw'n 'nabod pawb - Lord a Lady Carisborough, Princess Marina, Princess Alexandra, Princess Margaret: pawb.

"Princess Marina sy'n aros yn fy nghof i fwyaf. Roedd hi'n dod yma efo St John's Ambulance: Syr Michael oedd big chief St John's yng Nghymru a hi oedd y llywydd, ac roedd hi'n dod yma bob haf jest iawn. Yn 1959 roedd Syr Michael wedi mynd a hi i Ryd Ddu i'w llyn preifat yno, ac mi wnes i ei chyfarfod hi ar y ffordd - ges i fy nghyflwyno iddi gan Syr Michael a'n claim to fame i oedd ysgwyd llaw efo hi ar l么n gefn Rhyd Ddu. Mi fydda i'n cofio hynny am byth ..."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy