主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ymchwilio i hanes teulu mewn llyfrgell Hel Achau
Wrth fynd ati i hel achau, peidiwch ag anghofio am hanesion carreg yr aelwyd. Mae hon yn ffynhonnell bwysig iawn ac yn hawdd ei defnyddio.

Mi allwch chi gasglu llawer o wybodaeth wrth sgwrsio efo'r teulu. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd gop茂au o ddogfennau teuluol pwysig fel tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodi.

Mae cofnodion llai ffurfiol hefyd yn bwysig iawn wrth hel achau. Peidiwch ag anghofio am ddyddiaduron, llythyrau, llyfrau lloffion, llyfrau cyfeiriadau, adroddiadau ysgol, tystysgrifau addysgol a chardiau pensiwn.

Mae lluniau yn arbennig o ddefnyddiol ac yn medru bod yn hwb i gof ambell un. Weithiau mae gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar gefn lluniau felly cofiwch edrych ac ychwanegu manylion os nad ydynt ar gael. Mae'n hawdd anghofio!

Mae pob teulu'n chwarel o straeon bach a mawr ond dydyn nhw ddim i gyd yn wir! Holwch wahanol aelodau o'r teulu a defnyddio unrhyw ffynonellau eraill er mwyn cyrraedd at y gwir.

Mae hel achau erbyn hyn yn boblogaidd iawn a chynigir cyrsiau mewn llyfrgelloedd, colegau a phrifysgolion. Mae gwybodaeth am y rhain i gyd ar gael gan eich awdurdod addysg lleol neu chwiliwch am fanylion mewn cylchgronau hel achau neu hanes teuluol.

Mae cymdeithasau hanes teuluol hefyd yn ddefnyddiol iawn a phwy a 诺yr na fydd rhywun arall yno'n ymchwilio i hanes eich teulu chi hefyd!

Mae'r we bellach yn adnodd newydd a chyffroes ac mae cyfoeth o safloedd ardderchog ar gael ar achyddiaeth a hanes teuluol. Dyma ffordd wych o rwydweithio, sef cysylltu efo pobl eraill 芒 diddordeb yn y maes a chael gwybodaeth ar yr un pryd. Fe allwch chi ddefnyddio'r we hefyd i gael cofnodion swyddogol fel rhai'r cyfrifiad, cronfeydd data neu feddalwedd arall i greu eich coeden deulu.

Ond cyn dechrau, cofiwch am wreiddiau'r goeden os oes arnoch chi eisiau adeiladu coeden iach. Rhaid ichi weithio yn 么l, fesul cenhedlaeth. Mae gweithio ymlaen yn si诺r o greu trafferthion lu.

Wrth ymchwilio, fe gewch eich synnu sawl tro sydd ar y daith, gan gynnwys troeon trwstan, ac mi gewch chi hefyd gipolwg nid yn unig ar hanes eich teulu ond hefyd ar hanes y gymdeithas ehangach mewn lle ac ar adeg arbennig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy