主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mam Howard - Norah Jones - yn gafael mewn dau fabi (Llun: Daily Post) Dros 60 mlynedd o chwilio am ei fam
I'r rhan fwyaf o bobl, mae Sul y Mamau yn amser i gydnabod a diolch i'w mamau am eu gofal a'u cariad.
Ond i un g诺r o ogledd Cymru, mae'n ddiwrnod arall sy'n ei atgoffa o'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel 'twll' yn ei fywyd.

Mae William Howard Jones, sy'n 77 oed ac wedi ei fagu yng Nglan Conwy, ond bellach yn byw yn y Rhyl, wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn ceisio dod o hyd i'w fam waed, a dod yn erbyn rhwystr ar 么l rhwystr.

Yn anhygoel, yn y 60 mlynedd o chwilio, dyw'n ddim nes at ddod o hyd i hanes ei fam.

Bu Howard yn adrodd ei stori mewn cyfres o'r enw Perthyn ar 主播大秀 Radio Cymru

Howard Jones. (Llun: Daily Post)Pan oedd yn ddwy oed, mabwysiadwyd Howard gan William ac Annie Jones o Lan Conwy, ond doedd gan Howard ddim syniad am hyn nes ei fod yn 15 oed pan ddechreuodd cymydog ei holi am ei deulu. Roedd yn gwybod ei bod hi'n un am hel clecs ac roedd Howard yn gyndyn o ateb ei chwestiynau. Galwodd hi ef yn enwau a dweud nad Annie Jones oedd ei fam iawn. Aeth gartref a holi ei rieni os oedd hyn yn wir.

"Roedd 'y 'mhen i mewn troell ac adre 芒 fi, a gofynnais i'n rhieni a oedd hyn yn wir. A'r atebiad oedd, 'Yndi, oeddet ti ddim yn gwybod?'... wel, roeddwn i wedi cael sioc ofnadwy ar y pryd. Mi wnaeth fy nhad ddod a'r tystysgrifau 'ma allan ac oni'n gweld am y tro cynta' erioed beth oedd enw fy mam - Norah Jones.

"Pan nes i ofyn iddyn nhw am chwaneg o fanylion wnaen nhw ddweud dim byd wrtha i - 'fedran ni ddim,' medda nhw.

"Sioc fwya' mywyd i ... Dwi ddim yn meddwl bod yr adoption yn un preifat - oedd popeth above board. Mae'r dystysgrif gen i ac mae'r rhif a bob dim yna felly mae'n rhaid bod bob dim yn genuine."

Yr hyn a 诺yr Howard yw iddo gael ei eni yng Nglanwydden ger Llandudno yn 1927. Ei fam iawn yw Norah Jones oedd yn nyrs yn unai Llandudno neu Fangor. Bu gyda'i fam am ddwy flynedd nes iddo gael ei fabwysiadu yn 1929.

Mae'n meddwl i Norah weithio a byw mewn gwesty o'r enw St Kilda's Hotel yn Llandudno. Heblaw am hyn, dyw'n gwybod dim, ond mae ganddo lun o'i fam yn gafael mewn dau fabi.

"Ydw i'n un o efeilliaid neu ddim? Dwi ddim yn gwybod," meddai ar y rhaglen.

"Pam iddi nghadw i o 1927 i 1929? Dwi ddim yn gwybod."

Mae cymaint o gwestiynau a chymaint o ddarnau ar goll o jig-so bywyd Howard.

"Ydw i'n ddig hefo Norah am fy ngadael i fynd i gael fy adoptio? Na, dydw i ddim," meddai. "Yr adeg hynny oedd geneth ifanc ddi-briod yn cael plentyn yn bechod. Mi roedd yn dod 芒 chywilydd ar ei hun ac ar ei theulu.

"Mae na ryw unigrwydd. Dwi'n teimlo rywsut mai fi di'r unig un ... mae 'na ryw dwll yn rhywle a dwi'n teimlo biti na faswn i yn cael cau'r twll yna."

"Mae'n stori mor drist," meddai Ann Fon, cynhyrchydd y rhaglen. "Mae Howard wedi treulio ei holl fywyd yn ceisio dod o hyd i bwy ydi o a phwy ydi ei fam iawn. Mae'n 77 oed ac yn dal i chwilio."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy