主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr arwerthwr R G Jones a John Cwm Wrach Nant Peris (Llun: Teulu Ymwlch Ganol) Prynu a gwerthu ym Mart Bryncir
Pan symudodd Ellis Owen a'i deulu bach o Hafoty, Llanberis i fyw i Gwrt Isaf, Cwm Pennant yn Eifionydd yn 1921 daeth 芒'i ddefaid i'w ganlyn.
A brid y defaid hynny sydd wedi magu cynefin ac sy'n dal i bori yn "y cwm tecaf" hyd heddiw.

Yr oedd Ellis Owen mae'n debyg yn ffermwr o flaen ei oes ac wrth symud o'r fferm ar droed yr Wyddfa i'r cwm yn Eifionydd yr oedd yn gwella'i fyd. Er hynny doedd pethau yn Eifionydd ddim yn f锚l i gyd. Yr oedd yna un peth yn arbennig a oedd ar goll yno o safbwynt Ellis Owen, a hynny oedd marchnad gyfleus i brynu a gwerthu anifeiliaid.

Fy mwriad yn y traethawd hwn yw olrhain ychydig o hanes y mart a agorwyd yn Bryncir yn y cyfnod hwnnw ac sydd wedi parhau yno, bron yn ddi-dor dros gyfnod o tua phedwar ugain mlynedd.

Er mwyn gwneud hynny y cam cyntaf i mi oedd ceisio cael gafael ar rai pobl a fyddai'n cofio dechreuad y mart. Un ohonynt yw dyn o'r enw Robert Owen, Ymwlch Ganol, Cricieth.

Roedd ef yn fab i Ellis Owen, Cwrt Isaf, y soniwyd amdano ar y dechrau a thair oed oedd o pan symudodd o'r Foty (Hafodty) i Gwm Pennant. Difyr iawn oedd gwrando arno yn sgwrsio am ei atgofion o ddechrau'r mart, a chael dysgu rhywfaint am natur yr arwerthiannau cynharaf i gael eu cynnal yno.

Fel y dywedodd Robert Owen wrth s么n am ei dad:

"Mae'n debyg nad ef oedd yr unig ffermwr i deimlo'r diffyg hwn (diffyg marchnad) ond efallai mai ef, oherwydd ei gysylltiadau, oedd yr un a ddylanwadodd fwyaf ar ddyfodol prynu a gwerthu yn Eifionydd."

Robert Owen a'i briod Jane Ann Owen mewn arwerthiant diweddar yn y mart (Llun: Margaret Hughes)Aeth Robert Owen ymlaen i egluro mai cyfaill agos i'w dad a'r un a oedd yn was priodas iddo oedd g诺r o'r enw R.G. Jones, arwerthwr o Gaernarfon. Ato ef yr aeth Ellis Owen mewn ymgais i ddatrys ei broblem o brynu a gwerthu da byw yn lleol. Yr oedd y gwas priodas yn falch o gynorthwyo ei gyfaill.

Yn Yr Herald Gymraeg, Chwefror 24ain 1920, ymddangosodd yr hysbyseb cyntaf erioed am Fart yn Brynkir fel a ganlyn:

Brynkir Station
Ar gais amaethwyr y cylch, cynhelir
ARWERTHIANT MISOL
Yn gyson yn y lle uchod.
Cymer y sale gyntaf le yn ystod MIS MAWRTH Manylion eto.

Felly, cafodd Ellis Owen, Cwrt Isaf, ei ddymuniad pan gynhaliwyd y s锚l gyntaf erioed yn Bryncir ar Ddydd Gwener, Mawrth y 19ain 1920 dan arolygaeth R.G.Jones.

Mewn adroddiad diweddarach yn yr Herald adroddwyd hanes yr arwethiant yn fanwl a nodwyd mai'r anifeiliaid a werthwyd yno oedd "tua 60 o wartheg a 100 o ddefaid ac un eboles wedd a werthwyd am 拢36-5-0."

Roedd gan Robert Owen gof plentyn o chwarae criced ar y tir lle'r adeiladwyd y mart, ond yn arbennig cofiai am natur y tir hwnnw. Dywed fod y rhan uchel, lle mae adeiladau cyntaf y mart yn dal i sefyll heddiw yn dir sych, cadarn a hwnnw'n gyfleus iawn ger y rheilffordd. Ond, roedd y rhan isaf o'r tir yn wlyb ac yn gorsiog iawn. Rhy wlyb i osod anifail arno hyd yn oed!

Nid oedd Mr. Owen yn cofio sut na gan bwy y cafwyd y tir ar gyfer y mart ond yn sicr un rheswm dros ddewis y safle ym Mryncir (ar wah芒n ei fod yn gyfleus i Ellis Owen!) oedd fod y rheilffordd yn rhedeg trwy'r ardal a gorsaf hwylus yn y pentref a oedd yn ei gwneud yn gyfleus iawn i gludo'r anifeiliad i'r mart ac oddi yno. Fel y nodwyd mewn rhifyn o'r Herald Gymraeg yn y flwyddyn 1923 ger hysbyseb am y s锚l nesaf yn Bryncir, dywedwyd ei fod "yn hynod o gyfleus wrth ochr y station."

Er hyn roedd yna adegau pan fyddai'r s锚l yn rhedeg yn hwyr, a'r anifeiliaid yn colli'r tr锚n i'w cludo adref. Cofia Bob Owen fel y byddai'n rhaid iddo yntau a gweddill y dynion ar 么l, gerdded yr anifeiliaid i'w cartrefi newydd. Weithiau, roeddynt yn gorfod eu cerdded cyn belled 芒 Chaernarfon, cyn eu rhoi ar gwch i Foel y Don yn Sir F么n. Byddent wedi gofalu meddai bod merlen a throl yn eu dilyn ar eu taith er mwyn arbed eu coesau ar y ffordd yn 么l!

Er gwaethaf llwyddiant y Mart, yr oedd rhai ffermwyr yn parhau i werthu'n annibynnol. Ambell i dro, byddai fferm Cwrt Isaf, gan fod ganddynt gymaint o anifeiliaid i'w gwerthu, yn meddiannu holl adeiladau'r mart er mwyn cynnal s锚l breifat yno.

Prynu a gwerthu yn y martDifyr dros ben oedd clywed fel y byddai gan yr un fferm hon gymaint 芒 mil o ddefaid neu wyn a chant o heffrod newydd ddod 芒 lloi i'w gwerthu ar yr un diwrnod ac fel y byddid yn eu godro cyn mynd a hwy i'r mart a thrwy wneud hynny yn cael digon o laeth oddi wrthynt i wneud menyn fyddai'n para am y gaeaf i deulu Cwrt Isaf.

Roedd rhai eraill fodd bynnag na fynnai ddefnyddio adeiladau'r mart. Yr oedd y ffermydd hyn, megis Gilfach a Brongadair, yn dewis cynnal eu harwerthiannau mewn cae yng Nglandwyfach, i lawr y l么n o Bryncir. Ni wyddai Robert Owen y rheswm dros hyn, ond dywedodd fod y ffermwyr hyn yn dod i Fryncir yn achlysurol, felly nid oeddynt yn llwyr ymwrthod 芒'r mart newydd. Mae'n debyg mai teyrngarwch i arwerthwr arall oedd yn peri iddynt barhau a'r arferiad hwn oherwydd Mr. Dafydd Parry fyddai yn gwerthu iddynt hwy.

Yn wahanol iawn i sut y mae pethau heddiw, ychydig iawn o waith papur a oedd yngl欧n 芒 phrynu a gwerthu anifeiliaid yr adeg honno. Yn 么l Mr. Owen, ychydig iawn a glercod ac ysgrifenyddion a gofiai ef yn y mart, ond un cymeriad pwysig yn hun o beth oedd dyn o'r enw Louis Thomas, Bryncir Arms. Ef oedd yn gyfrifol am dderbyn yr 'entries' i bob s锚l ers y dechreuad ac am gyfnod go dda wedi hynny. Cawn gadarnhad o hyn yn yr Herald Gymraeg wrth hysbysebu'r s锚l oedd i ddod: "Yr entries i Mr Louis O. Thomas, Brynkir Arms."

Yn ogystal 芒 hyn, ef hefyd oedd y saer a adeiladodd adeiladau cyntaf y Mart, ychydig o gytiau sinc a choed, ar gais R.G. Jones. Awgrymodd amryw o ffermwyr y bum yn siarad a hwy mai eiddo Louis Thomas oedd y tir ble yr adeiladwyd y mart ond methais a chael cadarnhad o hyn yn un man.

Ymlaen i'r ail dudalen ...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy