主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gaucho o Batagonia Llythyrau'r Wladfa
Gyda chymorth cannoedd o lythyrau, mae Mari Emlyn wedi mynd ati i gyhoeddi cyfrol sy'n rhoi cipolwg ar fywydau'r pobl o'r ardal yma aeth ar y siwrne hir i Batagonia yn eu geiriau eu hunain.

Roedd yna sawl cymhelliad i mi sgwennu Llythyrau'r Wladfa. Roedd mam yn ysgrifennydd Cymdeithas Cymru a'r Ariannin ac ar 么l iddi farw, ddaru fi a fy chwaer dderbyn cardiau cydymdeimlo gan bobl 'doedden erioed wedi gyfarfod. Ddaru ni felly benderfynu mynd i weld beth oedd ap锚l y lle i mam, a thrwy hynny wneud ffrindiau allan 'na.

Sylweddolais, wrth i bawb e-bostio'r dyddiau yma, bod hanes pobl y wladfa am ddiflannu ac felly es i ati i gasglu llythyrau, i o leiaf olrhain bywydau'r Gymru yn y gorffennol. Trodd y prosiect bach yn fwy nag oeddwn wedi fwriadu!

Cefais filoedd o lythyrau i'w darllen ac felly roedd yn rhaid i mi rannu'r gwaith yn ddwy gyfrol; un o 1865 i 1945 a'r llall o 1945 i 2010.

Mae 'na rhywbeth am ddarllen llythyrau pobl eraill; 'da ni wedi dysgu mae rhywbeth preifat ydyn nhw, ond maen nhw'n dweud gymaint am gymeriadau ac am hanes y wladfa.

Roedd yr holl lythyrau fel jigsaw ac felly dwi wedi cynnwys y cefndir hefyd; pam fod pethau wedi mynd o'i le a pham fod 'na wedi bod rhwygiadau rhwng rhai o'r Cymry. Roedd rhaid bod yn hanesydd i wneud cyfiawnder 芒'r hanesion o fewn y llythyrau, ac erbyn y diwedd dwi wedi dod yn hanesydd o ryw fath!

Ond dwi'n falch fy mod i wedi ei wneud o, er mae o'n fwy o gyfrol ddogfennol 'na llyfr i fynd ar eich gwyliau. Mae'r gyfrol gyntaf llawn profedigaeth a newyn; nid oes yna lawer o hiwmor ynddynt.

Nid oes llawer o lythyrau o'r 1930au i'r 1950au gan eu bod yn dechrau meddwl fod Cymru wedi anghofio amdanynt. Ond 'roedd yna adfywiad ar 么l dathliadau'r canmlwyddiant yn 1965.

Cryfhaodd y cwlwm ac mae'r adfywiad yn anhygoel erbyn heddiw. Mae yna Fenter Iaith Patagonia, ysgolion meithrin, ysgol Gymraeg yn Nhre Lew ac eisteddfodau.

Mi fydd yr ail gyfrol felly yn ysgafnach ei naws; dwi wrthi'n darllen llythyrau o'r 1960au ac mae'r newid yn eu hansawdd yn ysgytwol. Hoffwn roi cais i unrhyw un sydd efo llythyrau neu e-byst am fywyd ym Mhatagonia ar 么l 1945 i gysylltu 芒 fi ar mari.emlyn@btinternet.com.

Llythyr yn dathlu cyrhaeddiad y Mimosa.
Llythyr i gariad, ar ei ffordd yn ol i Gymru.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy