主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Carreg filltir ar yr A5 ym Mhorthaethwy Cerrig milltir yr A5
Mae statws hanesyddol yr A5 rhwng Caergybi a'r Waun yn cael ei gofnodi a'i ddiogelu gan lywodraeth y Cynulliad gydag arwyddion gwybodaeth 'gwyn a brown' a thrwy adfer yr hen gerrig milltir ar ochr y ffordd.
Mae cefnffordd yr A5 o Lundain i Gaergybi yn dal i fodoli heddiw fel cofeb i beirianneg sifil y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r cerrig milltir ar hyd yr A5 yn nodweddiadol o hyder ac asbri peirianwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae pob un yn dalpyn o garreg nadd wedi ei gloddio o fae Traeth Coch, Ynys M么n.

Gosodwyd pl芒t o haearn bwrw mewn cilfach ar bob carreg, gydag arysgrif arno yn dangos y pellter o Gaergybi a dau lle arall. Cafodd y platiau eu paentio'n ddu a'r testun yn wyn, sy'n wahanol i'r rhan fwyaf o gerrig milltir eraill ac felly'n nodwedd unigryw arall ohonynt.

Carreg filltir ym Metws-y-coed yn dangos enw Cernioge Un lle sydd i'w weld o hyd ar rai o'r cerrig milltir yw'r Coaching Inn yng Nghernioge Mawr. Er nad yw ar unrhyw fap modern, roedd yn fan aros pwysig gynt.

Mae cyfanswm o 84 o gerrig milltir ar hyd y ffordd ond roedd 39 ohonynt wedi colli'u platiau; 13 carreg wedi'u claddu a 5 wedi diflannu. Roedd angen ail-baentio gweddill y platiau.

Roedd y cerrig milltir gwreiddiol yn ddu gyda llythrennau gwyn arynt, yn wahanol i'r rhan fwyaf o gerrig ,illtir eraill. Yn ddiweddarach, yng Nghlwyd, cafodd y lliwiau eu gwrth-droi fel bod llythrennau du ar gefndir gwyn.

Adeiladwyd yr A5 oherwydd pwysigrwydd strategol yr angen am ffordd fodern rhwng Llundain a Dulyn ar 么l Deddf Uno Seneddau Prydain ac Iwerddon ym 1800. Bryd hynny roedd teithiau ar draws Cymru yn droellog ac yn aml yn beryglus ar hyd fawr mwy na "thrac creigiog cwmpasog".

Arwydd 'brown a gwyn' ar yr A5Wrth i'r post Gwyddelig ddechrau ym 1808, tanlinellwyd mor annigonol oedd y ffyrdd.

Comisiynwyd Thomas Telford i ymchwilio i'r llwybr a dylunio ac adeiladu'r briffordd o Amwythig i Gaergybi. Yr oedd yn beiriannydd sifil disglair a di-ildio yn ei egni ac un a oedd eisoes wedi adeiladu camlesi Amwythig ac Ellesmere a rhwydwaith o ffyrdd a phontydd yn Ucheldiroedd yr Alban.

Ar 么l ei chwblhau, bernid mai Ffordd Caergybi oedd y ffordd fwyaf datblygedig yn Ewrop. Yr oedd i'r ffordd newydd fanteision sylweddol am ei bod yn bosibl teithio'n gyflymach, yn fwy diogel ac yn fwy cysurus. Croesawodd Syr Henry Parnell orchest Telford fel "a model of the most perfect road making that had ever been attempted in any Country"

Er bod nifer o welliannau wedi'u gwneud dros blynyddoedd i'r A5 rhwng Caergybi a'r Waun, mae llawer o'r cymeriad a'r nodweddion peirianyddol a ddatblygwyd gan Thomas Telford 150 o flynyddoedd yn 么l wedi goroesi. Wedi cwblhau ffordd yr A55 ar hyd arfordir y Gogledd Cymru i Gaergybi, nid oes cymaint o draffig trwodd yn defnyddio'r A5 mwyach. Mae ei statws hanesyddol bellach yn cael ei gydnabod ac ymdrechir i gadw a chyflwyno'r hyn sy'n dal i fodoli o'r ffordd enwog a phwysig hon.

Cafwyd y wybodaeth ar y dudalen hon oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy