主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberdaron
David Jones O dan y m么r
Mae deifio o amgylch arfordir Ll欧n yn agor byd newydd sbon fel y canfu David Jones o Lanbedrog sy'n aelod o Glwb Tan-dd诺r Ll欧n.
"Mae Pen Ll欧n yn lle gwych i ddeifio gen ei fod yn benrhyn, felly gallwch fynd i ba bynnag ochr sydd wedi ei gysgodi rhag y gwynt.

Os mai'r ochr ddeheuol sydd orau, byddwn yn deifio o amgylch ynysoedd Tudwal, Porth Neigwl (Hell's Mouth) a Bae Aberdaron. Gall y d诺r ar yr ochr yma fod yn eithaf tywyll oherwydd y silt felly mae wastad yn well deifio adeg llanw isel pan fo'r d诺r yn gliriach.

Mae 'na lot o longddrylliadau oddi ar ochr ddeheuol Pen Ll欧n. Er eu bod nhw i gyd wedi dirywio erbyn hyn mae'n lot gwell gan yr anifeiliaid fyw ynddyn nhw nag ar wely tywodlyd a chreigiog y m么r. Maen nhw bron fel r卯ff artiffisial.

Mae'r ochr ogleddol, o Forfa Nefyn i Ynys Enlli, yn greigiog iawn. Er hynny, mae 'na lot o fywyd yn y m么r yno, gan gynnwys crancod a chorgimychiaid sy'n cael eu pysgota.

Rydym hefyd yn mynd i ddeifio o amgylch Enlli a draw at y creigiau mawr tu hwnt. Ond rhaid deifio yma pan fo'r amgylchiadau yn iawn gan fod y cerrynt mor gryf.

Morlo yn awyddus i chwarae gyda'r deifiwr Rydyn ni wedi gweld dolffiniaid yn yr ardal yma - ond y peth mwyaf doniol ydy pan fo'r morloi yn penderfynu dod i chwarae. Maen nhw'n gallu cnoi eich masg - a dweud y gwir yn gallu bod yn ychydig o niwsans!

Rydyn ni'n gwneud lot o ddeifio drifft oddi ar Ben Ll欧n. Dydych chi ddim yn gorfod gwneud llawer dim ond gadael i'r cerrynt fynd 芒 chi - mae'n bosib mynd yn eithaf cyflym. Gan eich bod yn drifftio'n eithaf pell rhaid cael bwi ar linell sy'n arnofio ar wyneb y m么r i'r cwch gael gwybod lle ydan ni.

Deifio drifft ydy'r peth agosaf i hedfan - rydych chi'n cael eich ysgubo trwy'r d诺r heb orfod gwneud dim. Mae rhai wedi mynd braidd yn beryglus o oer, hyd yn oed gyda'r dillad iawn, gan nad ydych yn gwneud llawer o ymdrech corfforol.

Octopus Mi fyddwn ni'n gweld octopws weithiau, er eu bod yn eithaf swil. Unwaith, wrth ddrifftio ar hyd gwaelod y m么r, mi welais un yn nofio mewn dyffryn bach, yn procio ei dentaclau i mewn i dyllau i chwilio am fwyd. Roedd o mor anhygoel gweld anifail fel 'na wrth ei waith heb iddo wybod ein bod ni yna.

Ond un o'r pethau mwyaf trist yw'r niwed mae pysgota am sgolop yn ei wneud i wely'r m么r, lle mae'r corgimwch yn casglu gyda'r rhai bach.

Mae 'na ardaloedd arbennig sydd o dan reolau cadwraeth ond mae'n amhosib i un swyddog edrych ar 么l holl arfordir Pen Ll欧n, yn enwedig pan maen nhw'n gwneud y math yma o bysgota gyda'r nos.

Weithiau, byddwn yn pasio darn o wely'r m么r lle maen nhw wedi bod yn carthu ac mae popeth wedi ei ddinistrio. Mae'n dorcalonnus.

Os ydych am ddeifio oddi ar Ben Ll欧n, mae'n hanfodol eich bod yn mynd gyda deifwyr profiadol eraill. Fedrwch chi ddim jest neidio i mewn i'r m么r, fel mae'n bosib yn y trofannau lle mae'r cerrynt yn wan a'r d诺r yn gynnes a chlir.

Mae ein clwb ni'n cynnig gwersi ar gyfer dechreuwyr a rhai mwy profiadol i sicrhau fod pawb yn cael digon o brofiad. Un o'r problemau mwyaf yw pan fo pobl yn dod n么l o fod dramor - ar 么l cael ychydig o wersi theori, ychydig o brofiad deifio a darn o blastig fel tystysgrif. Dydy'r rhain ddim i fyny i safon y British Sub Aqua Club a ddim yn ddigon da i chi allu neidio i mewn i'r m么r yng Nghymru.

Mi ddaru fy ngwraig a finnau gychwyn deifio yn Ynysoedd y Ffilipinos. Ar 么l dod adref mi ddaru ni benderfynu ymuno 芒'r clwb i gael ychydig mwy o brofiad - ond ddim i ddeifio yn y m么r fan hwn. Ond ar 么l profi deifio o gwmpas Pen Ll欧n, dydyn ni ddim wedi stopio ac yn mwynhau'n fawr."

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Hanes
Lluniau
Natur


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy