主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

G诺yl y Llychlynwyr
Cymerwch ofal - mae'r Llychlynwyr ar eu ffordd! Arwel Hughes o Amlwch sy'n s么n am yr 诺yl arbennig yn y dref sy'n mynd 芒 hi n么l drwy'r oesau i gyfnod y Gw欧r o'r Gogledd.

'Milwr' mewn gwisg Llychlynaidd a chleddyf
next page
12345678

"Mae G诺yl Lychlynwyr Amlwch yn digwydd bob yn ail flwyddyn, ar y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf. Yn 2006, mae'n rhedeg o Orffennaf 21 i 23.

"Dechreuodd yr 诺yl yn 1996 dan ofal fy nhad, y diweddar John Hughes Britannia, Val Roberts, Eric Roberts, Peter Williams a Di a Titch Craddock. Mi gymerais i le fy nhad a dwi'n rhan o'r gr诺p sy'n helpu i drefnu'r 诺yl - ond dwi ddim yn gwisgo fel Llychlynnwr!

"Bob blwyddyn, mi fydd Cymdeithas y Llychlynwyr yn creu rhyw stori fel thema i'r 诺yl. Llynedd, roedd merch Oden, duw'r Llychlynwyr, wedi cael ei herwgipio ac roedd yn rhaid ymosod ar y dref i'w hachub hi.

"Yr unig beth sy'n sicr yw y caiff Oden ei ladd pob tro!

"Mi fydd aelodau'r gymdeithas yn gwisgo yn eu b诺ts lledr, crwyn anifeiliaid (dim rhai go iawn wrth gwrs) a'u hetiau gyda chyrn. Gyda'r nos, maen nhw'n tynnu'r hetiau ac yn mynd i'r tafarndai i lenwi eu cyrn gyda chwrw!

"Mae Peter Williams yn adeiladu cwch hir y Llychlynwyr allan o ddeunydd hylosg digon rhad. Bydd plant lleol yn cynllunio'r tariannau i'w rhoi ar ochr y cwch ac mi fydd fy mam Phyllis yn gwn茂o'r hwyliau.

"Ar 么l diwrnod o ail-greu'r ymladd yng Nghae Madyn, Amlwch, ar y dydd Sadwrn bydd y Llychlynwyr a'r cwch yn mynd ar orymdaith trwy'r dref tuag at Borth Amlwch. Rydan ni wedyn yn cael disgo a bandiau yn yr awyr agored cyn hudo pawb i lan y cei am ddeg o'r gloch. Mi fydd y Llychlynwyr i gyd yn sefyll ar dop Mynydd Shell ar lan yr harbwr, yn dal torch fawr baraff卯n - mae'n olygfa wych.

"Wedyn, mi fydd 'na saethwyr dros y d诺r ar ochr arall y porthladd. Mi fyddan nhw'n saethu fflamau tuag at y llong a'i roi ar d芒n, gyda delw o Oden ymysg y fflamau. Ond gan ei fod yn dduw, mae'n cael mynd a dod fel y mynn!

"Mi fydd y system sain yn chwarae cerddoriaeth iasol ac yn adrodd stori'r 诺yl - mae'n creu awyrgylch ffantastig. 'Da ni am gael t芒n gwyllt eleni hefyd.

"Mae'r Ardglass Vikings o'r Iwerddon yn hwylio drosodd gyda dwy long Lychlynaidd ac eleni mi fyddan nhw'n hwylio o Amlwch draw i Borth Llechog ar y dydd Sul - felly cymerwch ofal, mi fyddent yn glanio ar y traeth am ychydig o pillaging!

"Daeth 11,000 o bobl i Amlwch dros y penwythnos y tro diwethaf a 'da ni'n gobeithio y bydd mor boblogaidd y tro yma hefyd. Ond mae'n anodd iawn hel arian tuag at yr 诺yl - mae'n anodd cael cymorth gan nifer fawr o sefydliadau, er bod yr 诺yl yn denu cymaint o bobl i dref fach fel Amlwch.

"Am fwy o fanylion cysylltwch 芒 fi ar 07768860961 neu e-bostiwch arwel@madsoundandlighting.com"

  • Dylanwad y Llychlynwyr ar yr ynys

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy