主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awyr agored

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhan o'r afon yn Glynllifon a Bryn Griffiths yn y llun bach Creaduriaid y Nos
Bryn Griffiths, swyddog bioamrywiaeth Cyngor Sir Gwynedd sy'n dweud hanes taith gyda'r nos i weld ystlumod Parc Glynllifon ger Caernarfon.
Cliciwch yma i weld cyfri ystlumod

Taith ychydig yn wahanol oedd y daith yma yng Nglynllifon, taith i geisio gweld a chlywed rhai o greaduriaid dirgel y nos, taith i ddarganfod - ystlumod!!

Mae pawb wedi clywed am ystlumod a'r stori芒u sy'n ymwneud 芒 nhw, ond ar nos Fercher mwyn ym mis Medi daeth llu o blant a thrigolion yr ardal at ei gilydd i ddarganfod sut mae'r creaduriaid yma'n byw go iawn!

Ymwybyddiaeth

Cynhaliwyd y noson gan Gyngor Gwynedd er mwyn codi ymwybyddiaeth am ystlumod pwysig yr ardal, er enghraifft, yr ystlumod bedol leiaf sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun bioamrywiaeth "Natur Gwynedd". Mae hwn yn nodi'r rhywogaethau a'r cynefinoedd sy'n brin neu'n bwysig yng Ngwynedd.

Cyn cychwyn ar y daith fe glywsom gan yr arbenigwr ystlumod fod 17 o rywogaethau ystlumod ym Mhrydain. Mae nifer yma yng Nglynllifon, gan gynnwys ystlumod pipistrelle, hirglust, daubenton a'r ystlum pedol leiaf prin.

Ystlumod yw'r unig famaliaid sy'n gallu hedfan ac maen nhw'n gallu symud yn chwim yn y tywyllwch drwy ddefnyddio uwchsain i synhwyro'u hamgylchedd.

Clywsom y gall ystlum fwyta hyd at 3,000 o bryfed mewn noson a bod yr ystlum pipistrelle cyffredin yn pwyso llai na darn punt. Mawr oedd yr obaith y gellir gweld rhai yn ystod y daith!

'Datgelydd ystlumod'

Wrth iddi nosi, fe gychwynnon ni ar y daith drwy erddi a choedwigoedd hardd Glynllifon. Gan fod ystlumod yn defnyddio uwchsain i synhwyro'u hamgylchedd (sain sy'n rhy uchel i ni ei glywed), aethom 芒 'datgelydd ystlumod' ("bat detector") gyda ni sy'n troi'r uwchsain yn s诺n y gallwn ei glywed.

Wrth gerdded ar hyd gwahanol lwybrau'r Parc, roedd y cynnwrf yn byrlymu wrth i bawb aros am arwydd o'r ystlumod - sef cyfres o synau 'clic' yn dod o'r datgelydd. Yn sydyn clywodd rhai pobl s诺n yr ystlum pedol leiaf dros y datgelydd - o'r diwedd! Mae pob ystlum yn gwneud s诺n ar amledd gwahanol, felly gallwch diwnio'r datgelydd i bigo gwahanol ystlumod - yn union fel pe baech yn tiwnio fewn i'ch hoff raglen deledu!

Yr afon

Ar 么l hynny, distaw iawn oedd hi wrth i ni gerdded trwy'r goedwig gyda'r ystlumod fel pe baent yn amharod i gymryd mantais o'r noson fwyn iawn hwn ym mis Medi! Wedyn, daethom at lan yr Afon Llifon sy'n rhedeg drwy'r Parc ac yn sydyn roedd s诺n yr ystlum Daubenton yn ffrwydro allan o ddatgelydd pob un!

Hefyd, roedd hi'n bosib gweld yr ystlum llawn egni yn gwibio ychydig o filimetrau uwch gwyneb y d诺r gan bigo llu o bryfed bach - dyma ddarlun gwych a oedd yn gwneud hi'n llawn werth codi allan gyda'r nos!

Gyda'r amser yn gwibio heibio roedd rhaid troi am adref ond roedd dal cyfle i glywed yr ystlum bedol leiaf, ystlum prin iawn drwy Ewrop, ymysg y coed.

Roedd hi bellach yn 9 o'r gloch ac yn amser mynd adref a rhyddhad oedd clywed fod pawb wedi bod cael y cyfle i weld a chlywed ystlumod, ac wedi cael cip olwg ar fywyd dirgel y creaduriaid hyn.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy