主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y ddau Archdderwydd ar y Maen Llog Araith olaf Selwyn Iolen
Pwysigrwydd cadw'r llong i hwylio
Disgrifiwyd yr Eisteddfod Genedlaethol fel llong sydd wedi herio a goroesi pob math o stormydd gan Selwyn Iolen yn araith olaf ei dymor yn Archdderwydd.

Selwyn Iolen a Robyn Llyn yn gorymdeithio Yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ddydd Sadwrn, Mehefin 28 2008 yr oedd Selwyn Iolen yn trosglwyddo ei ddyletswydd fel Archdderwydd i'w olynydd y Prifardd Dic Jones - Dic yr Hendre.

Ac yn ei araith olaf o'r maen llog, yn dilyn gorynmdaith o rai cannoedd o bobl drwy Stryd Fawr Y Bala, cyfeiriodd at rai o bryderon ei dymor yn Archdderwydd gan gynnwys y posibilrwydd na fyddai Eisteddfod o gwbl yn 2007.

'Yn gwbl hyderus'
"Do, fe gafwyd pryderon, ond mi rydan ni'n ymfalch茂o, ac yn gwbwl hyderus bod yr hen long eisteddfodol ma wedi goresgyn sawl storm ac er bod na ambell i don annisgwyl yn mynnu bygwth yn achlysurol, mae hi ar y cyfan yn hwylio'n eithaf esmwyth ar hyn o bryd," meddai gan ychwanegu bod rhagolygon am 糯yl lewyrchus iawn pan fydd yn angori yng Nghaerdydd ymhen pum wythnos.

Dal i grwydro
Nid am y tro cyntaf pwysleisiodd bwysigrwydd eisteddfod grwydrol.

"A'r hyn sy'n galonogol," meddai, "drwy gydweithrediad Cymdeithas y Cynghorau Sir mae sawl ardal bellach yn awyddus i groesawu'r Eisteddfod ac mae'n bwysig i'r Eisteddfod ymweld 芒 gwahanol ardaloedd yn y gogledd, y de a'r canolbarth yn eu tro," meddai.

Ond ychwanegodd nad yw hynny mor hawdd ag y bu oherwydd y galw am safleoedd digon mawr a diogel ond ychwanegodd bod "sawl darn o dir mewn gwahanol rannau o'r hen wlad yma a fyddai'n gwbl ddelfrydol."

Mwy nag arian
Galwodd hefyd am beidio ag anghofio bod rhywbeth mwy nag elw ariannol yn bwysig wrth ystyried llwyddiant Eisteddfod.

"Efallai ein bod yn rhy baerod i ystyried llwyddiant yr Eisteddfod o safbwynt yr elw ariannol a wneir yn unig. Wrth gwrs mae hynny'n hanfodol bwysig ond yr elw mwyaf ysdi'r elw diwylliannol a chymdeithasol a brofir yn sgil yr Eisteddfod. Y brwdfrydedd a'r gweithgarwch a brofir wrth baratoi a'r effaith a adewir ar 么l yn yr ardaloedd hynny," meddai.

Galwodd hefyd am i fwy o bobl ifainc ymuno a sefydliadau'r Eisteddfod.

"Diolch," meddai, "am frwdfrydedd pobl ifainc. Beth am i ni weld mwy ohonyn nhw yn awyddus i fod yn aelodau o Gyngor yr Eisteddfod neu yn aelodau o'r Llys."

Y Bala - yn agos at galon Dic
Dic Jones Wedi cael ei urddo yn Archdderwydd dywedodd Dic Jones ei fod yn hynod o falch mai yn Y Bala yr oedd yn cychwyn ar ei dair blynedd yn Archdderwydd.

"Mae i'r Bala le cynnes yn fy nghalon i," meddai gan egluro mai yn Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala yn 1954 yr enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf erioed.

"Ac yn yr Eisteddfod honno, noson lleuad lawn, ac edrychwch chi'n 么l yn eich almanaciau ichi gael gweld fy mod i'n dweud y gwir, fan hynny y dechreuodd Sian [ei wraig] a minnau 'ganlyn' ys dywedwch chi yn yr ardal hon ac fe fyddwn ni'n dal i wneud ambell i bererindod yn 么l i bentref Glanrafon," meddai.

Y ddau ohonynt yn aros gyda theuluoedd o fewn ychydig ddrysau i'w gilydd yn y pentref hwnnw."

"Yma yn Y Bala hefyd y cefais i'n nerbyn i'r Orsedd , yma yn y Y Bala hefyd y cwrddais i a chymeriadau fel Ifan y Fet a Llwyd o'r Bryn ac yr es i i lefydd fel Tai'r Felin, Trawsfynydd a Hafod yr Esgob. Felly, rwy'n hoff iawn o'r Bala," meddai

Ac i gymeradwyaeth y gynulleidfa dywedodd:
"Mae y rhai hynny ohonoch sydd yn fy adnabod i yn gwybod imi ddweud sawl gwaith; Pe bai'n rhaid imi i mi symud bro o'r fan lle'r ydw i'n byw fe fyddwn i' naill ai'n mynd i fyw i Grymych neu i ardal Y Bala."

Ond wrth gychwyn ar ei swydd newydd holodd tybed a fydd ei dymor yn un mor llewyrchus ag un Selwyn Iolen:

"Yn ystod ei dair blynedd fel Archdderwydd fe gafodd Selwyn wobrwyo ym mhob un seremoni y bu yn eu harwain - naw ohonyn nhw.

"Wel, mae honno yn record na fedr neb guro arni hi :
"Fe fydd, ar waetha'i seiens, dilyn Selwyn
Yn sialens i 诺r sydd, heb fawr o sens!" meddai.

  • Dic Jones yw y trydydd prifardd i'w urddo'n Archdderwydd yn Y Bala. Yma yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod 1967 yr urddwyd Gwyndaf ac yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod 1997 yr urddwyd Dafydd Rowlands.

    Lluniau o'r cyhoeddi


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy