主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llechi Chwarelwyr ac Archaeoleg
Oes gennych chi hen lechen gerfiedig ger y t芒n acw? Dyma Andre Lomozic o Fethesda sy'n bwrw golwg ar waith Cymdeithas Archeolegol Dyffryn Ogwen a thraddodiadau lleol.
"Er bod Cymdeithas Archeolegol Bethesda yn eithaf tawel ar y funud, rydyn ni wedi gwneud lot o waith am hanes archeolegol Dyffryn Ogwen.

"Mi wnaethon ni ychydig o waith ar lechi cerfiedig. Rhyw ganrif a hanner neu fwy yn 么l, roedd chwarelwyr y Penrhyn yn naddu llechi, creu patrwm arnynt ac yn eu rhoi fel anrhegion priodas i gyplau ifanc, gan nodi dyddiad y briodas ar y llechan. Roeddent yn cael eu gosod o amgylch y lle t芒n mewn nifer o fythynnod yn yr ardal.

"Mi aeth y gymdeithas ati i gofnodi'r rhai oedd ar 么l a chymryd 'rubbings' ohonynt. Mi ddaru ni nodi dros 400 o lechi gwahanol a chyhoeddi llyfr - Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen - dwi'n meddwl ei fod yn dal ar gael, yn enwedig yn y siop lyfrau ail law ym Methesda.

"Mi ddaru ni hefyd wneud prosiect ar gerrig canan. Byddai'r chwarelwyr yn tyllu i mewn i garreg, rhoi powdwr ynddi, yna ei thanio.

"Mae dyn o Flaenau Ffestiniog, Gruff Jones, wedi gwneud ymchwil ar gerrig canan yr ardal. Maen nhw i'w cael o bopty'r Dyffryn, o Landegai hyd at Gapel Curig.

"Aeth y gymdeithas hefyd ati i gloddio am olion pentref o'r oes efydd ym mhentref Gelli, ger Tregarth. Roedd yn ddiddorol iawn dod o hyd i olion rhyw hanner dwsin o dai - mae 'na olion digon tebyg yn Ynys Lawd ger Caergybi.

"Prif bwrpas y gymdeithas a dweud y gwir ydy mynd i weld sut gyflwr sydd ar safleoedd archeolegol o bwys yn yr ardal, yn enwedig y rhai sydd wedi eu rhestru yn y Survey of Royal and Ancient Monuments i weld sut gyflwr sydd arnynt erbyn hyn.

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes yr ardal yma. Daeth fy nhad yma o wlad Pwyl adeg y rhyfel ac mae Dyffryn Ogwen yn debyg iawn i'w gyn gartref, ond bod 'na lot mwy o goed draw yng ngwlad P诺yl!

"Mi ddes i yn aelod o Gymdeithas Archeolegol Bethesda am fy mod i'n awyddus i ddysgu mwy am hanes yr ardal ac mi ddysgais am lawer iawn o bethau nad oedd gen i syniad amdanyn nhw cynt."

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy