主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blaenau Ffestiniog
Beicio mynydd Barn o'r Moelwyn
Dyma farn rhai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn, Blaenau, am eu gweithgareddau amser hamdden, bod mewn band a gweld colli'r chweched dosbarth.
AMSER HAMDDEN
Eifion, Trawsfynydd: "Dwi 'di byw yn Traws ar hyd fy mywyd. Mae 'na dipyn o bethau i'w gwneud yna a hefyd lot o blant ein hoed ni yna. 'Da ni'n gallu chwarae snwcer, p锚l-droed a 'sgota - dwi'n mynd 'sgota ar Lyn Traws bob penwythnos bron iawn ac yn dal rhywbeth bob tro fel brithyll, brithyll seithliw (rainbow trout,) neu ddraenogiad (perch).

"Pysgota pluen 'da ni'n ei wneud fwyaf, er ei bod yn bosib heirio cwch o'r clwb i fynd allan ar y llyn. Ond fel arfer dwi'n 'sgota ger y llyn, heb fod yn bell o'r pentref."

Si么n, Trawsfynydd: "Dwi'n mynd ar fy meic ar y traciau yng Nghoed y Brenin bob wythnos bron. Mae 'na lot o draciau gwahanol, rhai hir iawn neu rai byrrach - y traciau gorau yn Ewrop."

Ceri, Manod: "Dwi wedi hoffi saethu colomennod clai ers tua blwyddyn r诺an a dwi'n meddwl cychwyn saethu ffesantod cyn bo hir, falle yn St芒d y Penrhyn.

"Ddaru fy ewythr fynd 芒 fi lawr i Traws un diwrnod i fynd i saethu a dwi 'di bod 芒 diddordeb mawr ers hynny.

"'Da ni'n defnyddio gynnau 12-b么r, neu trap guns efo baril rhwng 28 a 32 o hyd. Mae'n rhaid gwisgo mwffs i arbed niwed i'r clustiau a weithiau menig i cael gwell gafael ar y gwn.

"Os 'da chi eisiau i'r disc (y 'golomen') ddod allan o'r trap, rhaid gweiddi pull, yna anelu. Dim colomennod go iawn ydyn nhw wrth gwrs, ond peth fel ffrisbi clai.

"Mi wnes i gystadlu mewn cystadleuaeth cyn 'Dolig, a ddes i'n ail ac enillais ddarn o borc!"

Mathew, Llanffestiniog:"Dwi'n hoffi sglefrfyrddio. Dwi wedi bod yn byrddio ers ryw dair blynedd er nad ydw i ddim yn dda iawn! Dwi'n gallu gwneud ollei, sef gwneud bunny hop bach ar y sglefr fwrdd a dwi jest iawn yn gallu gwneud kick back, sef cicio'r bwrdd oddi tanoch chi a'i fflipio.

"Mi wnes i gychwyn gan fod fy ffrindiau yn sglefrfyrddio. Da ni wedi cael parc sglefrio yma ers i mi gychwyn ac mae 'na amrywiaeth o blant yn dod draw.

"Dwi 'di cael ryw ddau neu dri o fyrddau'n barod - dwi'n defnyddio'r hen rai i drwsio'r un newydd."

BOD MEWN BAND
Paul, Manod: "Roedden ni'n bored, felly ddaru ni ddechrau band. Rydw i, Gareth, Llio, Daniel a Ceri ynddo fo. Dwi ar y dryms, Gareth ar y git芒r, Ceri ar y git芒r rhythm, Daniel ar y b芒s a Llio yn canu.

"'Da ni wedi recordio un g芒n ar CD y Gwallgofiaid - Geiriau Gwir.

"Y band i gyd sy'n sgwennu'r caneuon. 'Da ni'n dod fyny efo gwahanol bethau - Llio efo geiriau, Ceri a fi efo riff git芒r."

Gareth, Gellilydan: "Da ni'n chwarae reggae ran fwyaf, yn cael ein hysbrydoliaeth gan Bob Marley, Keane a King Sativa.

"'Da ni 'di bod yn mynd am bron i flwyddyn ac wedi gwneud gig efo Rhys Roberts o'r Gwallgofiaid. Ddaru ni wneud gig gwych yn Llangollen hefyd, er fod Llio wedi colli ei llais! Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau oedd o felly yn anffodus, oherwydd ei llais, ddaru ni ddim mynd ymhellach.

"Y gig gwaethaf oedd un yn Blaenau. Mi wnaeth rhai pobl luchio dillad aton ni, sy'n dda, ond dim pan mai bechgyn sy'n ei wneud o!"

Ceri, Manod: "Os oes rhywun eisiau bod yn manager, 'da ni'n agored i gynigion! Rydan ni angen rhywun i helpu i drefnu gigs a ballu. Cysylltwch efo ni ar 01766 832166."

CHWALU'R CHWECHED
Fflur, Trawsfynydd: "Does yna ddim chweched wedi bod yn Blaenau ers blynyddoedd, ond dwi'n meddwl fod cael un yn syniad da. Pan mae 'na chweched dosbarth, mae gan weddill yr ysgol rywun i edrych i fyny iddynt os ydyn nhw'n poeni am rywbeth.

"Dwi am fynd i Ysgol y Berwyn yn y Bala, er y bydd yn rhaid i mi gael lifft i lawr i'r bws, yna mi fydd hi'n daith o ryw ugain munud ar y bws i gyrraedd Bala.

"Mae ganddon ni rai ffrindiau yn y Berwyn a Llanrwst ac maen nhw'n r卯li licio yno, ac wedi gwneud ffrindiau da yn y chweched felly dwi'n edrych ymlaen.

"Ond dwi ddim yn gweld dim sens mewn cau'r chweched. Mi fyswn i'n hoffi ailagor un yn Ysgol y Moelwyn."

Llio, Llanffestiniog: "Dwi'n cytuno. Dwi'n teimlo'n fwy cartrefol mewn ysgol 'na choleg. 'Da chi'n cael eich gwthio i wneud y gwaith a falle ei bod yn bosib bod yn rhy laid back yn y coleg.

"Mi fydd yn rhaid i ni fynd i ysgol arall neu'r coleg yn Nolgellau ond does neb yn hoffi coleg, felly mi wna i fynd i un ai Lanrwst neu Ddyffryn Nantlle."


Cyfrannwch

Helen o Manod
rydw i yn mynd i ysgol y moelwyn ond rwyf yn gadael mewn blwyddyn a mi fuasai o yn well os petai yna chweched dosbarth yna er mwyn annog mwy o disgyblion i fynd yna ond fel merch o manod rwyf wrth fy modd yna

Aron. Blaenau Ffestiniog
Rydw i yn hoffi mynd ar fy meic i pob man, a chwaraeu pel-droed bob dydd yn y cau ysgol y moelwyn i cadw'n ffit.

Teleri o Blaenau Ffestiniog
Dwi'n anghytuno. Mae coleg yn rhoi llawer mwy o ddewis pynciau a cael mwy o ryddid ac yn cael gwneud penderfyniadau fel oedolion yn lle cael rhywun yn deud wrthym beth i'w wneud bob amser. Coleg yn gret!

llinos, manod
rydw i yn hoffi feicio i bob man a rydw i yn cytuno gyda Elin a Non

Ceurwyn, Manod
Dwi yn hoffi seiclo ond yr unig broblem yw bod ni oes yno lawer o draciau lleol a sydd yn saff i fynd arnyn mi fasa ail wneud yr hen reilffordd yn drac beicio a cerdded mi fasa yn helpu yr gymuned mewn ffordd ardderchog. :->

Ffion Roberts
Cytuno efo chi gyd , dwi meddwl dylsa nhw ail agor y chweched oherwydd fase llawer o bobl yn mynd yno ac ma pawb yn nabod ei gilydd.

Iola Jones
Rydw i yn cytuno dyla fod 6ed blwyddyn nol i ysgol y moelwyn oherwydd bydd yn rhyfedd i gadel ffrindia da ac yn anodd i gymysgu wfo plant sydd wedi bod efo'u gilydd ers blwyddyn 7!

Angharad. Manceinion
Cytuno gyda Non ac Elin. Ddylsa y chweched yn Ysgol y Moelwyn gael ei ail agor oherwydd mi es i i Ysgol y Moelwyn hyd at fy TGAU, ond es i chweched Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst i neud fy lefel A oherwydd doeddwn i ddim eisiau mynd i'r coleg. Fysa hi wedi bod yn llawer haws cael chweched yn Blaenau.

Elin a Non. JMJ.
Cytuno'n llwyr efo'r genod. Wedi mynychu'r ysgol a meddwl ei bod yn ysgol wych, er nad oedd y chweched yn bodoli. AIL-AGOR CHWECHED YSGOL Y MOELWYN!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Straeon Digidol
Trefi
Llyfrau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy