主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y tu mewn i D欧 Siamas T欧 Siamas
Cartref i gerddoriaeth werin
Mae canolfan i draddodiadau gwerin Cymru wedi agor yn Nolgellau. Bu'r rheolwr, Mabon ap Gwynfor, yn s么n am y cynlluniau ar gyfer T欧 Siamas sydd ar sgw芒r y dref.
  • Lluniau T欧 Siamas

  • "Breuddwyd ambell i berson yn Nolgellau oedd T欧 Siamas. Am ddeng mlynedd mae nifer o wirfoddolwyr wedi ceisio cael canolfan genedlaethol i gerddoriaeth werin yma, gan nad oes cartref priodol i'r math yma o gerddoriaeth yng Nghymru.

    Agoriad swyddogol
    Ty Siamas
    Agorodd T欧 Siamas yn swyddogol ddydd Iau, 14eg o Fehefin 2007 gyda gorymdaith drwy'r dref yng nghwmni disgyblion lleol a phibwyr Cymreig a chyflwyno allwedd i'r Dr Meredydd Evans gan y plant. Cyswllt: mabon@tysiamas.com. Gwefan y ganolfan:
    'Dyw'r 主播大秀 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
    "Ond yn sydyn iawn ddiwedd 2005, fe gawson nhw gadarnhad gan arianwyr Amcan Un, WDA, Cyngor Gwynedd a Chynllun Arbrofol Eryri y gallen nhw fynd ymlaen efo'r cynlluniau.

    "Bydd yna arddangosfa aml-gyfrwng i bobl yr ardal ac ymwelwyr i ddeall cerddoriaeth gynhenid trwy arbrofi, creu a chlywed - yng nghyd destun gweddill y byd.

    "Hefyd mi fydd yna awditoriwm i gynnal nosweithiau dawns a chanu gwerin a bydd ganddon ni'r gallu i recordio lleisiau ac alawon gwerin lleol i Ddolgellau, gogledd Cymru a Chymru i gyd.

    "Y gobaith hefyd yw mynd ati i gynnal digwyddiadau yn ardal Meirionydd fel nosweithiau gwerin, darlithoedd a gwersi offerynnau.

    "Y prif offeryn gwerin yw'r delyn, neu yn fanylach y DELYN DEIRES. Mae T欧 Siamas wedi cael ei enw ei ar ol Elis Si么n Siamas, telynor o Lanfachraeth oedd yn chwarae i'r tywysogion yn y ddeunawfed ganrif. Fo wnaeth gyflwyno'r delyn deires i Gymru.

    Crwth "Mae'r CRWTH (gweler y llun) yn offeryn pwysig arall ym myd cerddoriaeth werin, a oedd bron wedi marw allan yng Nghymru tan yn ddiweddar.

    "Un arall diddorol yw'r PIBGORN, offeryn sy'n perthyn i bibau Uwchdiroedd yr Alban neu bibau Uileann Iwerddon. Mae'r rhain yn boblogaidd ond wrth fynd n么l i gyfnod y Celtiaid, maent yn perthyn i Gymru cymaint ag i'r gwledydd eraill, ond ein bod fel cenedl wedi anghofio amdanynt.

    "Yn fwy diweddar, mae cerddorion gwerin wedi mabwysiadu offerynnau fel y banjo, harmonica a'r mandolin yn ogystal 芒'r ffidil a'r git芒r. Gallant ddefnyddio unrhyw offeryn gwerin i greu cerddoriaeth roc, ac offerynnau roc i greu cerddoriaeth gwerin.

    "Rydym eisiau dangos bod cerddoriaeth werin yn gyfoes ond hefyd 芒 chysylltiadau 芒'n cyndeidiau. Mae'n help i ni ddeall pwy ydyn ni ac o ble rydyn ni'n dod.

    "Fydd y ganolfan ddim yn amgueddfa sy'n cadw pethau y tu 么l i ffenestri gwydr, ac edrych ar bethau sydd i bob pwrpas wedi marw. Arddangosfa fyw fydd T欧 Siamas, gyda chyfle i bobl gymryd rhan a chreu - dangos bod traddodiadau gwerin Cymru yn fyw ac yn datblygu.

    "Mae Cymru wedi profi ein doniau yn y byd pop/roc gyda 'Cool Cymru' y 1990au. Mae'n amser r诺an i hyrwyddo a dangos bod ein cerddoriaeth gynhedig cystal ag unrhyw draddodiad ledled y byd."

  • Canolfan werin: cefndir a barn yr arbenigwyr
  • Mwy am ein hofferynnau gwerin:

  • Y delyn deires.
  • Pibgorn

  • Crwth.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Radio Cymru
    Digwyddiadau
    Adolygiadau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy