主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cai Griffiths
Cai Griffiths

Nid Robin McBryde yw'r unig ogleddwr i ennill y Gamp Lawn yn y blynyddoedd diweddar. Dyma sut gwnaeth Cai Griffiths o Bontnewydd ddilyn y b锚l hirgron i'r de a dod yn rhan o lwyddiant t卯m Cymru o dan 21.

"Wnes i ddim cychwyn chwarae rygbi tan oeddwn i'n 13 yn Ysgol Syr Huw Owen. Roedd wastad yn well gen i chwarae p锚l-droed ond mi wnes i dyfu'n rhy fawr i'r g锚m yna! Fy safle yw prop pen tyn, sef rhif 3 yn y sgrym.

"Mi wnes i astudio hamdden a chwaraeon yn y chweched dosbarth ac mi ges i fy newis i chwarae dros dimau Ieuenctid Cymru ac Ysgolion Cymru Mi ddaru Lyn Jones, hyfforddwr y Gweilch, ddod i wylio g锚m Ysgolion Cymru ac mi ges i'r cynnig i fynd lawr i Gastell Nedd.

"Mae 'na ddigon o gyfleoedd yn y gogledd i chwarae rygbi, er mae'n bwysig bod y chwaraewyr ifanc yn dod i olwg timau mawr y de. Mae'n rhaid iddyn nhw felly chwarae mwy yn erbyn timau o'r de - dim jest timau o'r gogledd yn chwarae eu gilydd.

"Dwi'n chwarae i Gastell Nedd ac yn hyfforddi efo sgwad y Gweilch. Dwi'n gobeithio cael cyfle i chwarae i'r Gweilch y flwyddyn nesaf ond mae rhai o brops gorau Cymru ar y t卯m ar hyn o bryd - Adam Jones, Duncan Jones, Paul James. Maen nhw i gyd yn barod i gynnig cyngor a dwi'n dysgu lot ganddynt.

"Dwi wedi mwynhau symud lawr i'r de i chwarae, er ges i stic gan y bechgyn am fy acen i gychwyn! Does na ddim lot o Gofis lawr fan hyn.

"Dwi hefyd wedi chwarae i dimau o dan 19 a 21 Cymru. Roedd y t卯m dan 21 llynedd yn un ifanc a ddaru ni gyd 'jelio' yn syth, ennill profiad a magu hyder erbyn tymor 2004/5.

"Y g锚m anoddaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad (o dan 21) oedd yr un yn erbyn Ffrainc. Roedd yn rhaid i ni amddiffyn ar ein llinell ni am dros 20 munud cyn i ni lwyddo i ennill ac wedyn dechrau meddwl bod ganddon ni'r gallu i ennill y gamp lawn.

"Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn wych a dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Felly, i unrhyw un sydd eisiau gyrfa fel chwaraewr rygbi - gwrandewch ar yr hyfforddwyr a gwnewch eich gorau ym mhob g锚m - 'da chi byth yn gwybod pwy sy'n gwylio!"



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy