主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tim y Gogs Rygbi'r Hen Hogiau
Dyma Emrys Llewelyn Jones o Gaernarfon i ddweud pam nad oes neb byth yn rhy heb i fwynhau g锚m o rygbi.

"Golden Oldies Rugby yw'r enw swyddogol ar ein g锚m ni - 'da ni wedi bathu'r enw 'Rygbi'r Hen Hogiau' yn Gymraeg.

"Dechreuodd y syniad yn Seland Newydd yn y 1970au ac ers hynny mae wedi chwyddo yn beth enfawr!

"Mi ddaru wedyn ddatblygu yn Ewrop ac mae'n boblogaidd iawn yn yr Eidal a Ffrainc. Ddaru ni fynd draw i Benidorm yn 2004 a ddaru ni gwahodd yr 糯yl Ewropeaidd i Gaernarfon yn 2008, ond Portiwgal enillodd. Mae Madeira yn gynhesach 'na Chaernarfon eniwe!

"Rygbi veterans sy'n cael ei chwarae yn yr ardal yma gan y rhai h欧n, sy'n wahanol i ni. 'Da ni un lefel i lawr, does neb eisiau cael eu brifo!

"Dwi'n chwarae i d卯m y Gogs (Geriatrics o Gymru) yng Nghaernarfon.

"'Da ni wedi bod i sawl g诺yl rhyngwladol - yn Nulyn, Christchurch, Vancouver, Capetown, Toulouse a Brisbane. Mi roedd cael mynd i Seland Newydd yn drip anhygoel yn ei hun, ond Awstralia oedd y gorau. Roeddwn i yna am fis, ac mi es i bob man, yn ogystal ag i'r 诺yl yn Brisbane. Roedd yn amser hir i ffwrdd o gartref ond mi wnes i gyfarfod 芒 gymaint o bobl wych.

"Mae rheolau'r g锚m yn syml. Rhaid bod dros 35 mlwydd oed, er bod y rhan fwyaf o'r Gogs yn eu pedwardegau - mae'r hynaf yn 64. Does neb yn ennill yn ein gemau ni - mae pob g锚m yn gorffen yn gyfartal. Ein harwyddair yw 'Hwyl, Brawdgarwch a Chyfeillgarwch' - jest cael dipyn o sbort ydan ni. Mae gemau yn erbyn timau o Loegr yn gallu bod ychydig yn fwy corfforol - ond Cymru a Lloegr ydy hyna, mae'n digwydd bob tro!

Tim y Gogs ar ol ennill cwpan am y cit orau

"Mae rhai timau yn gwisgo siorts gwahanol liwiau i ddynodi gwahanol ddegawdau - y rhai rhwng 35 a 45 yn gwisgo du, glas i'r rhai rhwng 55 a 60, gwyn i'r rhai dros 60 a melyn i'r rhai nad oes neb yn cael eu taclo! Ond r诺an 'da ni jest yn gwisgo siorts lliwiau'r clwb - ond does dim ots, mi ellwch chi wisgo rhai efo dotiau neu streipiau os 'da chi eisiau! Y chwaraewr hynaf dwi wedi ei gyfarfod oedd Pedro Gonzalez o Sbaen, mi roedd o'n 94 ac yn dal i fynd. Mi wnaethon nhw ei gyflwyno efo siorts aur arbennig yn yr 诺yl!

"'Da ni ddim yn ymarfer yn swyddogol, er bod 'na griw bach sy'n dod at ei gilydd ar ddydd Sul. Ond mae'r rhan fwyaf yn mynd i'r gampfa neu'n rhedeg ar eu pen eu hunain - byddai'r gair 'hyfforddiant' yn ddigon i wneud i bawb redeg i ffwrdd!

"Mae'n g锚m gymysg ac mae merch wedi ymuno efo ni, Kate Jones, ddaru chwarae dros Gymru. Yr unig broblem ydy ei bod hi'n fwy ffit na ni - does neb yn gallu dal i fyny efo hi! Mae Gareth Davies, cyn faswr Cymru, wedi cytuno i gael g锚m efo ni y tro nesaf rydan ni yn y de - felly bydd dau sy' wedi chwarae dros Gymru ar ein t卯m!

"Y t卯m arall yn y gogledd yw How Gets, Bethesda. Mae 'na d卯m o fois awyddus iawn i lawr yn Cwmbr芒n a rhai yn y cymoedd hefyd. Pan mae t卯m ieuenctid yn dod i Gaernarfon i chwarae bydd y rhieni yn dod hefyd am g锚m efo ni.

"Mae croeso i unrhyw d卯m o Gymru sy'n awyddus i chwarae yn ein herbyn. Hefyd os oes rhywun eisiau ymuno efo ni, 'da ni wastad yn chwilio am chwaraewyr newydd. 'Da ni'n fodlon i groesawu unrhyw un, cyn belled 芒'u bod nhw'n fodlon talu am beint!"

Emrys Llewelyn Jones


Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy