主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y band yn Amgueddfa Lechi Llanberis Gorymdaith i wreiddiau Cymreig
Daeth 300 o Americanwyr i Wynedd i dalu teyrnged i'w gwreiddiau Cymreig fis Ebrill 2007 fel rhan o daith gan Fand Gorymdeithio o ardal Bangor, Pennsylvania.
Anfonodd Hefin Owen, sy'n yrrwr trenau ar Reilffordd Llyn Padarn, luniau aton ni o'r band yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ar Ebrill 3, 2007.

"Dyma luniau o'r band ieuenctid Americanaidd o Pennsylvania ar eu taith gyntaf dramor. Sefydlwyd bwrdeistref Bangor Pennsylvania yn 1875 gan Robert Morris Jones o Ddinas Bangor, Gwynedd, Cymru. Mae yna 150 o ieuenctid yn chwarae yn y band ac yn gwisgo dillad giard Cymreig," meddai.

Y band yn yr Amgueddfa LechiY noson honno roedd y band yn gorymdeithio drwy ddinas Bangor hefyd.

Meddai Maer Bangor, y Cynghorydd Douglas Madge: "Daeth 150 o aelodau'r band ieuenctid o Fangor, Pennsylvania drosodd i chwarae i ni. Mae yna bump Bangor yn America, a chafodd yr un yma ei enwi ar 么l ein Bangor ni. Mae gan yr heddlu ddraig goch ar ddrysau'r ceir ac roedd y band yma yn gwisgo gwisg y Gard Cymreig.

Daeth 150 o gyfeillion a theulu draw hefyd, gan fod nifer fawr yn ddisgynyddion i chwarelwyr yr ardal ac roedd Maer Madge yn falch o'u croesawu. "Cododd y gerddoriaeth galon y dref yn fawr iawn ac maen nhw'n s么n am ddod 'n么l - er dwi'n falch na fyddaf yn Faer yr adeg honno gan fod hyn wedi cymryd lot fawr o drefnu. Mae ffeindio lle i bron i 300 o bobl aros yn logistical nightmare!"

Y band yn yr Amgueddfa Lechi Y diwrnod canlynol, roedd y band yn perfformio par锚d yng Nghastell Harlech a Chastell Caernarfon fel rhan o ddathliadau'r daith wythnos o hyd ledled y Deyrnas Unedig o'r enw 'Tribute to Heroes'.

Sefydlwyd Band Gorymdeithio Ysgol Uwchradd ardal Bangor ym 1975 ac maent yn ymfalch茂o yn ei treftadaeth Gymreig gyda gwisgoedd y gorymdeithwyr wedi ei seilio ar wisgoedd y Gwarchodlu Cymreig. G诺yr Harlech a Rhyfelgyrch Capten Morgan yw'r gerddoriaeth ar gyfer dau o'u gorymdeithiau mwyaf poblogaidd.

Drwm y band gyda draig goch arno Meddai John F Reinhart, uwcharolygwr ysgolion, rhanbarth ysgolion ardal Bangor: "Bwriad y daith 'Tribute to Heroes' yw amlygu'r cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol rhwng trigolion Gogledd Cymru a phobl ardal lechi Pennsylvania, a elwir y Slate Belt.

Dywedodd hefyd fod y band wedi bod yn telu teyrnged i luoedd y cynghreiriaid a wnaeth hedfan o RAF y Fali, Ynys M么n yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ogystal 芒 llinach deuluol Gymreig honedig yr Arlywydd Thomas Jefferson.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Cerddoriaeth
Radio Cymru
Lluniau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy