主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

David Williams Byw mewn goleudy
Cafodd David John Williams - neu David Point fel y'i gelwir yn lleol - ei fagu mewn goleudy oddi ar arfordir M么n: plentyndod sydd wedi magu diddordeb oes mewn pethau morwrol.
"Ganwyd fi ar y 12fed o Orffennaf 1940 yn Penbedw, Lloegr, yn nh欧 rhieni fy mam, ond dychwelodd mam a finnau yn 么l i Point Lynas o fwrlwm y bomio oedd yn digwydd ar lannau'r Mersi.

"Roedd fy nhad wedi bod yn geidwad ar y safle hon, ond galwyd o i ffwrdd i Lerpwl i wasanaethu gyda'r llynges am ei fod yn arbenigwr yn y c么d mors, felly ond mam, fy chwaer a finnau oedd adref yn byw yn y goleudy yn y pedwardegau.

"Y prif geidwad oedd John Henry Stanford, Cymro o Gaergybi oedd yn Gymro rhugl ond roedd y Saesneg y siaradai yn iaith gwaith yn unig, felly chlywen ni fel plant ond Cymraeg ganddo. Roedd yn ddyn hynod o ffeind ac annwyl, oedd fel taid i ni, ac oedd yn gwneud teganau erbyn y Nadolig. Cefais un Nadolig, pan oeddwn tua chwech oed, ferfa bren wedi ei lliwio yn las ganddo. Roedd ei fab, Douglas, yn y fyddin a'i ferch, Zena, yn gweithio mewn ffatri yn Llandudno a'r ferch arall Brenda wedi priodi ac yn byw ym Mangor gyda'i g诺r, "King George" fel roeddan ni fel plant yn ei alw, am mae'r unig George oedden ni yn clywed amdano oedd King George y Brenin.

Pwynt Lynas (Llun gan Sion Jones) "Roedd gan John Henry tua hanner cant o ddefaid yn pori ar y penrhyn o bopty'r l么n, ac roedd yn hwyl mawr amser cneifio. Ymadawodd y safle yn 1947.

"Y ceidwad arall oedd William Mathias; brodor o Landudno oedd tua'r un oed. Roedd o yn fwy rhugl yn y Saesneg na John Henry, felly y fo oedd yn cyfathrebu gyda'r awdurdodau os oedd angen ac roedd ganddo dri o blant: John yn y llynges, Olive yn gweithio i ffwrdd ac Enid, yr ieuengaf, oedd yn gweithio yn Fferyllfa Weeden yn Amlwch. Roedd y dyn yma hefyd yn ffeind iawn tuag at y plant oedd o gwmpas y lle oedd yn cae1 eu hudo yno i chwarae gyda mi. Roedd ganddo tua ugain o wyddau ar yr ochr orllewinnol i'r l么n a phentwr o ieir dodwy ac roedd yn mynd i Amlwch yn aml ar ei feic modur bychan i n么l y negesau i'w wraig a chwarae golff yn Porth Llechog.

"Am nad oedd y gwasanaeth bysiau lleol mewn bodolaeth ar 么l y rhyfel dechreais yn yr ysgol dros y ffordd i d欧 Nain yn Fairfield Road yn Penbedw, ond ar 么l i'r bws ail ddechrau pan oeddwn yn chwech oed dechreais yn Ysgol Porth Amlwch. Maimie Williams oedd fy athrawes.

"Roeddwn yn cael fy nghludo i'r bws ysgol gan William Huw "La" ar grosbar ei feic o'r Point i Glan Eilian lle roedd y bws Crosville yn ein tywys i Borth Amlwch a'r ysgol.

"Nid oedd rhieni amser hynny yn cyboli llawer i dywys plant i'r ysgol nac yn 么l - roedd pob man yn weddol saff a'r unig fodur ar y l么n oedd y Meddyg a Dafydd Rowlands y tacsi. Roedd pawb arall yn defnyddio beic neu'n cerdded i bob man a dim rhyw filltir neu ddwy, ond milltiroedd. Roeddwn i a fy chwaer, Gaynor, yn mynd i Ffermdy Balog i odro bob nos cyn cael swper ac wedyn yn gwneud gwaith ysgol ac yn gwrando ar y radio ac wedyn gwely cyn naw i godi hanner awr wedi chwech bob dydd. Yr amser honno nid oedd golau trydan yn unman yn Llaneilian felly roedd gwaith ysgol yn cael ei wneud gyda lamp baraffin ar y bwrdd ar 么l iddi dywyllu.

"Roedd plant yn oes fy mebyd yn dlawd iawn. Teganau fel arfer oedd trycs wedi eu gwneud gyda hen focs ac olwynion prams a banjos wedi eu gwneud o hen dyniau bisgedi a darn o bolyn brws a lein 'sgota fel tannau iddi ac yr un fath o dun fel drwm. Ac wrth gwrs roedden ni'n gwneud bwa a saethau a pib chwythu o goed onnen ac roedd gan bawb rhyw greadur rhyfedd fel cwningen wyllt neu gyw gwylan neu jac-do i ddangos o gwmpas ac roedd y rhain yn mynd yn ddof dros ben.

"Roedd y merched, fel fy chwaer, yn chwarae gyda dols wedi eu gweu ac yn llusgo rhain i bob man yn cogio cael te-partis ag ati a hefyd yn chwarae hop-scotch ar gowt yr ysgol neu yn y l么n. Roedd pawb yn hapus braf allan mewn bob tywydd dros y penwythnos ond am Y Sabbath - roedd hwnnw yn ddiwrnod i'w sancteiddio ac roedd rhaid mynd i'r Capel dair gwaith - oedfa'r bore, ysgol sul ac oedfa'r hwyr wedi gwisgo yn ein glad rags, y dillad gorau, ac yn gorfod dysgu adnod i'w llefaru yn y s锚t fawr.

"Dros wyliau'r haf roedd plant yr ardal yn helpu gyda'r cynhaeaf gwair a'r gwenith ac yn bwydo'r ceffylau a'r bustych oedd yn gwneud y gwaith. Y ceffylau oedd yn tynnu'r peiriant torri gwair a hefyd y beindar ac wedyn roedd y bustach yn tynnu'r cribin i gael y gwair neu'r 欧d at ei gilydd mewn rhesi twt erbyn eu hel i'r wageni oedd yn mynd a dwad tra'r oedd hyn yn mynd ymlaen - roedd hwn yn antur mawr.

"Digwyddiad arall oedd pan oedd dyrnwr y Cyngor Sir yn cyrraedd yn cael ei thynnu gan injan st锚m ac wedyn hwnnw hefyd gyda belt ar yr olwyn mawr yn troi peiriant y dyrnwr. Roedd holl blant y fro yno yn ffordd y gweithwyr ac yn herian y cyffylau ag ati, ond roedd pawb yn cael hwyl. Fuo'r dynion byth yn gas; oeddan nhw'n rhy brysur i hynny, ac amser hynny roedd plentyndod yn beth i'w gadw am gyfnod hirach nac yn yr oes yma, felly roedd pawb wrth eu bodd yn gweld y plant yn cael chware.

"Mae'n rhaid fy mod i yn hen r诺an i'r plant yn yr ysgol. Roedd gennyf lamp nwy carbide llachar ar fy meic cyn cael un gyda batri. Roedd y grisial carbide i'w gael yn Fferyllfa Weeden yn Amlwch, yr unig degan arall oedd gennym oedd radio grisial oedd yn codi rhaglenni o bob man. Wrth gwrs roedd pob peth ar ration ers y rhyfel a phawb yn byw fel llygoden eglwys o ran bwyd, ond wrth gwrs yn y gongl yma o F么n roedd y Blac Marcet yn gweithio yn wyrthiol gyda bac-handars meddai fy nhad.

"Ac roedden ni fel plant ym misoedd Ebrill a Mai yn hel wyau gwylanod a'u piclo mewn calch i'w bwyta fel bod eisiau dros y flwyddyn wedyn. Roedd hwnnw yn help mawr ac roeddwn yn pysgota trwy wyliau'r haf a than ddiwedd Hydref os oedd y tywydd yn ddigon braf a golau tan yn hwyr.

"Daeth yr anturiaethau hyn i ben yn 1955 pan aethum i'r T.S. Indefategable ym Mhlas Llanfair, lle cychwynais fy ngyrfa ar y m么r, lle b没m ond am gyfnod fel ceidwad goleudy tan 1972.

"Wel, dyma enghraifft o fywyd hogyn bach oedd yn byw yn ystod yr ail ryfel byd pan oedd plant yn rhedeg yn wyllt gyda chlocsiau ar eu traed pan nad oedden nhw yn yr ysgol ac yn mwynhau'r awyr iach.

"Erbyn heddiw, yn 65 mlwydd oed, rwyf wedi manteisio ar bob achlysur i fwynhau fy hun yn yr awyr agored ar 么l treulio 21 o flynyddoedd yn gaeth yn Atomfa'r Wylfa fel hyfforddwr peiriannyddol adweithydd a twrbins enfawr - gwaith oedd yn tu hwnt o ddiddorol yn cyd-weithio gyda phawb."

  • Mae David Point wedi gwneud ymchwil manwl i hanes Goleudy Point Lynas - darllenwch ei erthygl yma.


  • Papurau Bro
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy