主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Puma Ar drywydd cathod gwyllt
Rydyn ni i gyd wedi clywed y straeon am gathod mawr yn crwydro cefn gwlad ond mae un o gynhyrchwyr 主播大秀 Radio Cymru wedi bod yn gwneud ymchwil i'r adroddiadau yma - a chasglu tystiolaeth go swmpus i'w cefnogi.
Taniwyd chwilfrydedd Aled Jones, cynhyrchydd y rhaglen Galwad Cynnar, pan ddaeth galwad am weld cath fawr i'r rhaglen un bore. Ers hynny mae wedi bod yn cadw cofnod o bob adroddiad drwy roi pinau ar fap, a gweld bod patrymau diddorol yn ffurfio. Felly beth yn union ydy'r dystiolaeth?

"Dros y blynyddoedd mae sawl un wedi cysylltu efo Galwad Cynnar i ddweud eu bod wedi gweld cathod gwyllt yng Nghymru. 'Dwi felly wedi bod yn cadw cofnod o leoliadau'r adroddiadau yma ac wedi sylw ar glwstwr yn ardal Corris a'r Bala.

Ai cath fawr sydd yn y llun yma o ardal Porthmadog?
Gwelwyd ddechrau Mai 2006 yn ardal Porthmadog. Roedd yr anifail yn cerdded trwy frwyn rhwng 18" a 24" mewn uchder.
Mae yna glwstwr arall yn nwyrain Sir F么n, rhwng Llanddona ac Amlwch. Mae'n ardal wyllt iawn gydag ychydig iawn o boblogaeth ond llawer o gwningod. Mae yna achosion wedi bod o rywbeth eithaf mawr yn ymosod ar geffylau yn yr ardal hefyd. Gan fod rhywun wedi gweld cath yn croesi'r ffordd osgoi i'r Felinheli, mae'n ddigon posib eu bod wedi croesi'r bont.

Mae nifer o'r rhai sy'n eu gweld nhw yn adnabod cefn gwlad - ffermwyr, wardeiniaid, cerddwyr - y math o bobl fyddai'n gwybod y gwahaniaeth rhwng mochyn daear, llwynog a chath.

Llygaid melyn
Mae bron pawb wedi cynnig yr un disgrifiad; tua'r un maint 芒 labrador, gyda phen llydan, ysgwyddau pwerus, cynffon hir a thrwchus a'u bod yn cerdded gyda 'swagr' cath. Mae rhai yn dweud ei bod yn ddu, yn frown neu'n felyn - ond mae'r amrywiaeth yma mewn lliw yn hollol bosib gyda chathod gwyllt.

Mae sawl un allan yn hela llwynogod gyda'r nos wedi gweld llygaid mawr melyn yng ngolau'r fflachlamp. Mae eraill wedi sb茂o allan trwy'r ffenestr gyda'r nos ac wedi gweld cath fawr yn yr ardd drws nesaf, neu hyd yn oed un yn cerdded ar hyd hen reilffordd trwy'r Bermo!

Mae milfeddyg o ardal y Bala wedi gweld un o'r bwystfilod yn croesi ei thir nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac yn ei disgrifio fel cath eithaf od. Roedd yn edrych yn ffit ac yn gryf, ond bod cyfesur y corff ddim yn iawn - pen mawr, corff tenau a chynffon sy'n rhy hir, nid fel basa rhywun wedi ei gynllunio'n gall. Mae'n ddigon posib felly fod br卯d newydd o gath yn datblygu yma.

Dwi wedi siarad efo pobl sydd wedi clywed synau anarferol gyda'r nos; sgrechiadau cath sy'n ddigon tebyg i'r piwma neu'r gath jwngl.

Rydw i hefyd wedi gweld olion traed, nad yw'n 么l ci na mochyn daear, ond yn perthyn i rywbeth gyda phawen fawr a bysedd cath.

Mae cathod fel rhywogaeth yn gallu byw yn y jwngl, yr anialwch neu eira mawr yr Arctig. Felly mae hinsawdd fel Prydain yn wych iddynt; tymhorau sy'n amrywio, digonedd o fwyd a thir lle mae pobl prin yn mynd. Mae ardal Corris a'r Bala yn ffantastig iddynt.

Mae'n bosib iddynt fyw ar gwningod, sgwarnogod, llygod neu adar fel ysguthanod - mars bars natur! Mae yna hefyd s么n am 诺yn yn diflannu, neu gorff un yn cael ei ddarganfod wedi cael ei bwtsiera'n daclus, gan anifail gydag ewinedd siarp iawn.

Magu rhai ifanc
Pam nad oes mwy wedi eu gweld nhw? Sawl un sydd wedi gweld mochyn daear neu ddyfrgi? Mae yna lot o bethau wedi dianc i'r gwyllt ym Mhrydain - adar ysglyfaethus, eryr aur, tylluanod prin; pethau digon mawr sydd ddim yn cael eu gweld yn aml.

Sut maen nhw yma? Mae yna ddau brif theori; un yw Deddf Bywyd Gwyllt 1976. Roedd rhaid cael trwydded i gadw anifail peryglus o hynny ymlaen. Roedd lot o bobl yn cadw piwma neu gath jwngl ond ddim yn barod i wario'r holl arian i'w cadw'n saff, a felly'n penderfynu eu gollwng i'r gwyllt. Byddai'r cathod yma wedi paru, magu ifanc a byw'n ddigon hapus yn y gwyllt. Mae'n bosib i fridiau gwahanol o gathod fridio gyda'i gilydd felly mae hyn yn hollol bosib.

Mae'r theori arall yn mynd yn 么l i'r Oes Fictoraidd pan roedd cadw cath wyllt fel piwma neu lewpart fel gentleman's accessory. Does neb call yn meddwl fod yna lewpart yn rhydd yng Nghymru wrth gwrs - maen nhw'n gweld c诺n fel danteithfwyd ac felly buasai nifer o g诺n wedi diflannu, yn ogystal ag ymosodiadau ar blant bach neu bobl yn cerdded yng nghefn gwlad wedi digwydd.

Mae sawl un erbyn hyn yn cadw llygad allan am y cathod gwyllt, ond beth wnawn ni os bydd rhywun yn cael tystiolaeth eu bod yma? Yr ateb yw i rywun wneud astudiaeth ar eu heffaith ar gefn gwlad, ar amaethyddiaeth a bywyd gwyllt. Os nad ydynt yn gwneud difrod, beth a wnai'r llywodraeth? Eu gwarchod neu adael i bobl eu hela? Rhaid cael tystiolaeth yn gyntaf, wrth gwrs."

Ac efallai y bydd hynny yn gynt na'r disgwyl - mae Aled wedi gosod camera mewn un lle yn ardal y Bala lle cafwyd mwy nag un adroddiad o weld cath fawr. Mae wedi cael nifer fawr o luniau yn barod - ond o lwynogod hyd yma! Mae'n gobeithio y bydd rhywbeth mwy yn rhoi ei bawen ar y botwm yn fuan.


Cyfrannwch

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy