主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sharron Smith gyda Gareth Evans, warden cefn gwlad Nant y Pandy
Gwarchodfa natur ar gyrion tref farchnad Llangefni yw Nant y Pandy neu'r Dingle, fel mae'n cael ei alw ar lafar gwlad. Swyddog Prosiect y Dingle, Sharron Smith sy'n s么n am ddatblygiadau'r blynyddoedd diwethaf.
"Mae coetir y Dingle yn Llangefni yn cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys M么n ac yn Warchodfa Natur Leol ddynonedig ers 1996.

"Dechreuodd y gwelliannau yn 2002 gyda prosiect Ehangu'r Dingle pan dderbyniwyd grant Cydcoed o 拢160,000 gan y Comisiwn Coedwigaeth ac arian Amcan Un.

"Gwelodd hyn 650 metr o lwybr bordiau pren, pedair pont newydd a cherfluniau pren yn cael eu creu ar y safle. Cafodd y gwaith ei wneud wedi ymgynghori gyda'r gymuned a gwaith gyda grwpiau cymunedol.

"Cyn y gwaith yma roedd y Dingle yn hafan i bobl oedd yn camddefnyddio sylweddau ac alcohol. Mae 40,000 o ymwelwyr bellach yn ymweld 芒'r Dingle yn flynyddol a gwelwyd gostyngiad mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol. Credir bod defnydd rheolaidd gan y cyhoedd yn helpu i "blismona'r" ardal.

"Dechreuodd gwaith prosiect i ymestyn y Dingle yn 2004 ac mae'n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys M么n a Chwmni Tref Llangefni ac mae wedi ei ariannu gan grant gwerth 拢122,000 gan Gronfa'r Loteri.

Llwybr Nant y Pandy

"Nod y prosiect hwn yw ehangu gwerth cadwraeth a chymunedol y coetir. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy brynu tir fydd yn gwneud y coetir yn ecolegol gynaliadwy a chynnwys y gymuned drwy deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau gyda ysgolion a grwpiau lleol.

"Pan ddechreuodd y prosiect ehangu roedd y Dingle yn 10 hectar o faint. Ers hynny mae tair hectar arall wedi ei brynu ac mae'r tir yn cynnwys yr hen d欧 pwmp. Oherwydd problemau yn gysylltiedig 芒 chamddefnyddio sylweddau ac alcohol roedd angen datrys y broblem.

"Penderfynwyd trawsnewid yr adeilad yn lloches ar gyfer ystlumod a dyfrgwn, gan fod y ddau rywogaeth i'w canfod yn y coetir a'i fod yn gyfle i ehangu'r cynefin. Sicrhawyd arian cyfatebol gan Gronfa Her Natur Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Eu nod ydy sbarduno cadwraeth ymarferol ar gyfer rhywogaethau sydd yn rhan o Gynllun Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig.

"Ni fu'n bosib i'r cyhoedd gael mynediad i'r adeilad ers i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2005 ac ni fu tystiolaeth o gamddefnyddio sylweddau. Mae'r gwaharddiadiad ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn cynnwys rhan o'r Dingle - o'r bont reilffordd i'r eglwys. Y gobaith yw y bydd y mesur hwn yn helpu i leihau achosion o yfed yn y coetir.

"Ymysg y cynlluniau ar gyfer y dyfodol mae prynu 3.5 hectar o dir gydag arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus yngl欧n 芒'r broses o blannu coed wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd yn y Dingle. Bydd estyniad 350 metr i'r llwybr bordiau pren yn agor i'r cyhoedd yn 2006, diolch i arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

"Bydd digwyddiadau cymunedol ac ymweliadau ysgolion yn parhau drwy'r flwyddyn."

  • Taith luniau Nant y Pandy

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Addysg
    Hanes
    Lleol i Mi


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy