主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gardd berlysiau Uwchgwyrfai Gardd berlysiau Uwchgwyrfai
Mae 'sbectol nain' a'r 'hen 诺r' yn tyfu eto wrth i ardd berlysiau newydd ddechrau ffynnu ger Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn Nyffryn Nantlle. Dr Anne Elizabeth Williams sy'n egluro mwy.

Mae gardd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, sydd wedi'i lleoli y tu 么l i adeilad yr Ysgoldy, yn rhan bwysig o weithgarwch y Ganolfan. Tir diffaith oedd yma pan brynwyd y T欧 Capel a'r Ysgoldy, a threuliwyd 2005 yn cael gwared 芒'r llystyfiant gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Cafwyd cymorth amhrisiadwy gan gangen Dyffryn Nantlle o'r Ffermwyr Ifanc a ddaeth atom ar dri achlysur. Wedi hyn, aed ati i osod y prif lwybrau, i ailgodi'r hen wal gerrig sy'n rhannu'r ardd ac i godi ffensys, gyda chymorth ariannol gan Enfys, Amcan 1 ac Amgylchedd Cymru.

Wermod lwyd Cr毛wyd gardd berlysiau draddodiadol yn un rhan o'r ardd, gan geisio efelychu'r hyn a dyfid gan werin gwlad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Byddai pawb yn y cyfnod hwn yn tyfu rhai o'r perlysiau mwyaf cyffredin at ddefnydd meddyginiaethol a choginiol. Er enghraifft, y wermod lwyd. Roedd te wermod lwyd yn feddyginiaeth gyffredin gan y werin at anhwylderau'r stumog. Roedd hon yn ddiod chwerw iawn. C芒i te wermod ei gyfrif yn feddyginiaeth ddi-guro at lyngyr hefyd, yn enwedig yn siroedd y Gogledd.

Byddid hefyd yn plannu camomeil. Gwneid te camomeil at anhwylderau'r stumog. Roedd y te hefyd yn boblogaidd iawn at annwyd, yn enwedig ym Maldwyn. Byddai rhai yn ei gymryd cyn mynd i'r gwely, i'w helpu i gysgu.

Mae llawer ohonom yn gyfarwydd 芒 defnyddio rhosmari ar gyfer coginio. Gwneid defnydd meddyginiaethol ohono yn ogystal, yn enwedig at annwyd a pheswch. Byddai rhai yn ychwanegu m锚l at y te.

Un arall yw cwmffri. Enw arall arno yw llysiau'r cwlwm, ac roedd yn feddyginiaeth boblogaidd at friwiau a chlwyfau ac at straen, er enghraifft, pe bai rhywun wedi troi ei droed. Gellid clymu'r ddeilen am y clwyf neu'r straen, neu wneud powltis o'r dail.

Byddai pobl yn tyfu dau fath o fintys yn y gerddi erstalwm, sef y mintys gardd cyffredin at ddefnydd coginiol, a'r pupurfintys at ddefnydd meddyginiaethol. Roedd te pupurfintys yn cael ei gyfrif yn dda at annwyd ac at anhwylder ar y stumog.

Rydym hefyd wedi plannu coed ffrwythau megis cyraints duon, cyraints cochion a chyraints gwynion ynghyd ag eirin Mair neu gwsberins.

Mae ail ran yr ardd wedi'i neilltuo i lwyni traddodiadol a blodau gardd fwthyn. Plannwyd coed drops, rhosyn Saron, rhosod dringo a rhosod mwsg, blodyn tri lliw ar ddeg a chorswigen y gaeaf (viburnum). Rydym hefyd wedi plannu blodau hen ffasiwn megis balchder Llundain, sbectol nain, hocysen fendigaid, na'd fi'n angof, jinifflw芒rs, bys y blaidd, croes Caersalem a dahlia, a phenderfynwyd plannu eirlysiau a briallu gwyllt ar un o'r cloddiau pridd.

Cyflawnwyd yr holl waith gan d卯m o wirfoddolwyr sy'n cyfarfod oddeutu unwaith y mis, neu'n amlach yn ystod yr haf.

Gobeithiwn y bydd yr ardd yn ychwanegu at fwynhad yr ymwelwyr 芒'r Ganolfan, ac y bydd hefyd yn gyfrwng i addysgu'r genhedlaeth iau am y defnydd meddyginiaethol a wneid o'r planhigion hyn a'r ll锚n gwerin sy'n gysylltiedig 芒 hwy.



Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy