主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y tu mewn i guddfan yr RSPB Gweilch Cymreig?
Huw Jenkins sy'n ymweld 芒 chuddfan safle nythu gweilch y pysgod yng Nglaslyn ac yn gofyn a ellir sefydlu coloni Cymreig parhaol o'r adar prin?
Mae'r gweilch yn 么l am y bumed flwyddyn. Ar 么l hedfan 3,000 milltir o Orllewin Affrica, adunwyd y p芒r ddydd Iau 27 Mawrth pan gyrhaeddodd yr i芒r ychydig oriau ar 么l y ceiliog.

Mae'r gwanwyn ar eu gwarthaf a does dim eiliad i'w wastraffu. Mae'r adar yn paru tua unwaith bob awr a byddan nhw'n gwneud hynny nes daw'r 诺y cyntaf, 12 diwrnod yn ddiweddarach fel arfer.

Yn ystod yr amser yma mae'n rhaid i'r i芒r atgynhyrchu ei horganau rhywiol gan ei bod wedi eu tynnu i fewn i'w chorff yr hydref diwethaf cyn iddi hedfan i ffwrdd am y gaeaf - dim pwynt cario pwysau ychwanegol dros y cyfandir. Mae'n swnio fel rhywbeth o ffuglen wyddonol.

Rhwng y sesiynau paru, mae'r nyth yn cael ei atgyweirio a gwneir teithiau rheolaidd i ddal pysgod. Mae'r fenyw wedi bod yn dal ei physgod ei hun dros ein gaeaf ni ond pan ddaw'r 诺y cyntaf, bydd yn rhaid i'r gwryw bysgota ar gyfer y teulu cyfan gan ddal hyd at wyth y diwrnod wrth i'r cywion baratoi i adael y nyth.

Mae cynefin delfrydol ar gyfer gweilch y pysgod yn cynnwys coed conwydd ar gyfer nythu a lle da i bysgota, sy'n gwneud rhannau uchaf aber yr afon Glaslyn yn lleoliad gwych.

Os ydy'r pysgod yn aros dros dair troedfedd islaw wyneb y d诺r fe fyddan nhw'n ddiogel rhag crafangau'r gweilch sy'n plymio'n unionsyth i'r d诺r. Mae brithyll y m么r, brithyll brown a brithyll seithliw yn eu tymor r诺an ac wrth i'r tywydd gynhesu bydd y mingrwn yn dod at y glannau ac ar y fwydlen.

Mae'r nyth yn anferth, tua chwe troedfedd ar draws ac yn ddigon mawr i bedwar aderyn ar y tro. Gyda'r cywion yn tyfu'r un maint a'r oedolyn gydag ystod adenydd o bum troedfedd cyn y byddan nhw'n gadael y nyth mae lle yn brin a'r nyth yn gallu mynd yn gyfyng iawn.

Cafodd poblogaeth y gweilch magu ym Mhrydain ei ddifa'n derfynol yn 1916. Wnaethon nhw ddim dychwelyd tan 1954. Ers hynny mae nifer y parau bridio wedi codi'n gyson i 200, yn yr Alban yn bennaf. A fydd unrhyw un o gywion Glaslyn yn dychwelyd?

Mae chwech wedi cael eu magu'n llwyddiannus ers 2005 a chan mai'r tebygolrwydd ydy bod un o bob tri yn goroesi ei flwyddyn gyntaf, fe ddylai bod dau ohonyn nhw allan yno yn rhywle. Yr oedran tebygol iddyn nhw ddychwelyd i Ewrop ydy tair oed, felly ai 2008 fydd blwyddyn y gwalch Cymreig cyntaf? Mae dychwelyd yn un peth, ond darganfod cymar yn fater gwahanol. Mae'n debyg y bydd yr adar ifanc yn dod n么l i Laslyn, ond os na fydd eu dyfodiad yn cyd-daro 芒 chanfod partner addas fe fyddan nhw'n parhau i hedfan i'r gogledd nes dod o hyd i gymar. Rhain ydy'r blynyddoedd anodd, bregus o geisio ailsefydlu'r rhywogaeth; nes daw'r coloni'n ddigon mawr fydd ei ddyfodol ddim yn ddiogel.

Yn y cyfamser un o'r bygythiadau mwyaf i'r rhywogaeth ydy casglwyr wyau, felly mae'r nyth yn cael ei warchod bob eiliad o'r dydd nes mae'r wyau'n deor.

Mae cuddfan yr RSPB, tua tair milltir i fyny'r afon o Borthmadog, yn lle gwych. Mae bob amser rhywbeth i'w weld yno.

Mae'r camer芒u uwchben y nyth ac ar dair coeden gyfagos yn anfon lluniau byw sy'n cael eu harddangos ar bedair sgr卯n fawr. Os nad ydy'r adar ar y nyth, dangosir uchwafbwyntiau o'r ffilm ddiweddaraf, rhywfath o 'Match of the Day' i wylwyr adar. Eleni bydd meicroffon wrth ymyl y nyth yn dal seiniau'r cywion yn sgrechian am eu swper.

O fewn y guddfan wylio ei hun mae pedwar telesgop yn pwyntio at y nyth. Yn fwy na hyn mae llawer o staff cyfeillgar yr RSPB, gwirfoddolwyr yn bennaf, bob amser wrth law ac yn barod i ateb bron unrhyw gwestiwn. "Na syr, nid y gwalch ydy hwnna, y camera ydi o!"

Mae'r lleoliad yn hyfryd, yr afon yn y tu blaen, yna'r coed a'r nyth wedyn yr Wyddfa yn y cefndir. Ar y diwrnod y dychwelodd y gweilch roedd y mynyddoedd wedi eu gorchuddio ag eira. Awyr las, cymylau gwyn a chopaon dan orchudd o eira wedi eu hadlewyrchu yn afon Glaslyn - hudol.

Ac os ydych chi'n hoffi trenau st锚m bydd Rheilffordd yr Ucheldir yn pasio heibio pan ailagorir y linell i Borthmadog y flwyddyn nesaf. Rydw i'n deall bod y gyrrwyr wedi cytuno i beidio 芒 chwythu eu chwiban pan fo'r adar ar y nyth.

Huw Jenkins

  • Gwegamera'r gweilch
  • Lluniau'r gweilch

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Addysg
    Hanes
    Lleol i Mi


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy