主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Merlod y Carneddau
Mae unig geffylau gwyllt Prydain yn fyw ac yn iach ar y Carneddau, diolch i waith caled y ffermwyr lleol. Gareth Jones, ysgrifennydd Cymdeithas Merlod y Carneddau sydd yn s么n mwy am y bygythiadau i'r anifeiliaid prin yma.

Dyma'r anifeiliaid mwyaf gwyllt ym Mhrydain. Nid ydynt yn cael eu chwistrellu ac mae popeth maen nhw'n ei fwyta'n organig. Maen nhw wedi bod yma ers cyfnod y Celtiaid.

Maen nhw'n swynol ar y mynydd ac yn hanfodol i ecoleg yr ardal. Mae'r Carneddau hefyd yn gartref i coloni o frain goesgoch sy'n bwyta'r pryfaid o faw'r ceffylau wrth iddynt bori mewn un ardal arbennig yn ystod y gaeaf.

Ond tair blynedd yn 么l, daeth gyfraith newydd o Ewrop yn gofyn i ni gael pasport i bob merlen gwyllt ar y mynyddoedd. Roedd y merlod ar y pryd 'mond werth rhyw 拢20, a'r pasport a'r tag electronig yn costio bron i 拢50, felly doedd o ddim yn rhywbeth i ni fel ffermwyr yr ardal allu fforddio. Ond gydag arian Amcan Un, mae'r saith ohonom sy'n ffermio'r tir yma wedi llwyddo creu Cymdeithas Merlod y Carneddau. Y bwriad yw eu cadw yna am flynyddoedd i ddod.

Nid yw lot yn dallt bod mynyddoedd fel y Carneddau wedi cael eu cadw fel y maent oherwydd gwaith y ffermwyr. Mae eraill yn dweud nad yw ffermwyr yn poeni am natur, ond 'da ni wedi cadw'r merlod ar y mynydd am ddim ers talwm; nid am bres ond o'r galon.

Pan welwch chi 'Welsh Section A: Ponies' mewn g诺yl amaethyddol, bydd y rhan fwyaf wedi eu bridio o'r criw gwreiddiol yn y Carneddau. Maen nhw wedi diflannu o sawl mynydd ledled Prydain felly dyma'r unig griw gwreiddiol gwyllt. 'Sa ni'n colli nhw, 'sa nhw byth yn dod 'nol. Mae rhai wedi ceisio symud merlen o Sir F么n i fyw'n wyllt yn y mynyddoedd ond maen nhw wastad yn marw. Mae'n bosib mynd a nhw o'ma, ond byth dod a nhw yn 么l.

Merlod gwyllt y Carneddau Maen nhw'n byw mewn teuluoedd, fel anifeiliaid gwyllt eraill. Mae rhai o'r stalwyni yn mynd o un criw o ferlod i'r llall - bechgyn drwg am ddwyn merlen o'i gilydd! Mi welwch chi nhw yn y gwanwyn, yn cwffio dros y merlod - mae'n beth na welwch chi unlle arall. Rydym wedi prynu pedwar stalwyn arall eleni er mwyn d诺ad a thipyn bach o waed newydd i'r criw.

Mae fy nheulu i wedi bod yn ymwneud a'r merlod ar fynyddoedd y carneddau ers tri chan mlynedd r诺an. Roedd fy hen daid yn dipyn o ddilar ceffylau. Ddaru o wneud lot o bres adeg y rhyfel byd gyntaf, yn gwerthu merlod i'r llywodraeth neu byllau glo'r de. Ddaru fy nhad werthu llwyth o'r merlod i foi o America yn y 1970au ac mae pobl dal efo diddordeb ynddynt hyd heddiw.

'Da ni wedi gwerthu un ferlen a chiw i ddynes busnes o Lundain. Roedd hi arfer dod ar ei gwyliau i Ogledd Cymru yn hogan fach, a phan ddarllenodd am ein merlod ni, dywedodd wrth ei hun bod yn rhaid iddi gael un. Felly mae ganddi gyw i ddangos mewn sioeau a merlen fydd dal i fyw yn wyllt.

Ond fel arfer, mi fyddem yn eu gwerthu fel teulu - y stalwyn a'i har卯m! Rydym newydd werthu 17 i'r Iwerddon iddynt geisio cychwyn criw ar fynyddoedd allan fa'no. Ddaru ni dewis criw o genod bach drwg oedd wedi bod yn pori lle na ddylen nhw fod, felly i ffwrdd a nhw mewn lori, a drosodd i'r Iwerddon.

Y prif waith i ni yw tynnu nhw lawr o'r mynydd diwedd pob mis Awst. Mae yna griw o ryw ugain ohonom wrthi ac nid yw'n waith byddwch yn barod derbyn tal amdano! Dim ond y ni sydd wedi cael ein magu ar y mynyddoedd yma, sy'n gwybod pob twll a charreg, sydd a'r gallu i hel y merlod. Mae'n gallu fod yn beryglus hefyd - roedd angen ffonio'r ambiwlans awyr unwaith pan syrthiodd un boi o'i feic a chael asen yn ei ysgyfaint.

Merlen gwyllt y Carneddau Eleni, byddem yn cadw rhai o'r cywion am flwyddyn, gan roi cyfle i bobl noddi a chynnig enw iddynt. Felly maen nhw yn ddigon diogel, o leiaf am y pum mlynedd nesaf. Os aiff y noddi yma'n iawn, efallai na fydd angen ragor o arian gan Ewrop i barhau a'r gymdeithas.

Un o'n prif obeithion yw cael Ewrop i'w hystyried fel brid prin. Mi fyddem felly yn gallu eu gwerthu fel criw, ar yr un pasport, heb orfod talu i gofnodi pob un yn unigol. Roedd yn ddigon anodd difa ar niferoedd y merlod i'w lleihau o 400 i ryw 140 heb orfod meddwl am gael gwared 芒 nhw i gyd oherwydd costau cyfreithiol Ewrop.

Maen nhw'n rhan o'n hetifeddiaeth ac am barhau yn wyllt ar y mynyddoedd am ganrifoedd i ddod, gobeithio. Gareth Jones, Llanfairfechan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Addysg
Hanes
Lleol i Mi


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy