主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Margaret Davies Y rhyfel a'r dre
Margaret Ann Davies, Llanrwst yn hel atgofion am fywyd yn y dre adeg y rhyfel.

"Dwi'n cofio dau ryfel byd. Roeddwn yn fach iawn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dwi'n cofio fod y siwgr yn ddu yr adeg honno - 'doeddwn i ddim yn ei licio fo, a dwi byth 'di cymryd siwgr ers hynny!

Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd, dwi'n cofio'r seiren yn mynd yn Llanrwst am y tro cyntaf. Roeddwn i a fy ffrind yn siopa ar Denbigh Street a chafodd pawb eu gwthio i mewn i stafell o dan neuadd y dre.

Ond ddaru fy ffrind a minnau benderfynu peidio aros gan nad oedd dim byd yn digwydd tu allan. Ond wrth gwrs doedd na ddim golau o gwbl ar y strydoedd - roedd yn rhaid i ni edrych i fyny ar y toeau i wybod lle roedden ni! Ond mi nes i allu adnabod to Garrington Terrace ac felly cyrhaeddais n么l yn Station Terrace yn iawn.

Roedd fy ng诺r yn y fyddin ond roeddwn yn gwybod eu bod yn darllen llythyrau pawb. Felly mi ddywedais wrtho, pan fyddwn yn 'sgwennu ato am 'yr adar du yn yr ardd', mai dyma'r arwydd i ddweud ein bod wedi cael ein bomio.

Roeddwn i'n gweithio yn stesion Llanrwst, yn y warws. Dwi'n cofio unwaith i mi drimio i fyny ar 么l cael ordors i gerdded o'r stesion i sgw芒r Llanrwst i n么l paced o bapurau oedd yn dod ar y bws o Ddolgarrog. Ond dwn i ddim beth oedden nhw - doedd fiw i neb ofyn amdanynt a ches i 'rioed wybod.

Mi oedd na garcharorion rhyfel Almaenig yn cael eu cadw mewn plastai yn y ardal, fel Talarn yn Llanrwst, ond roedden nhw'r tu 么l i weiars a doedd neb yn cael mynd atynt. Roedd y dynion yn edrych yn iawn - ond prisoners oedden nhw yn de?

Daeth efaciw卯s i'r dre hefyd. Dwi'n cofio eu gweld nhw'n dod o'r stesion efo'u pecynnau.

Ges i ddwy hogan bach o Lerpwl yn dod i aros am chwe mis. Dwi wedi anghofio eu henwau, ond roeddent yn ddwy eneth bach annwyl. Mi ddaru nhw fynd o dan y dresar i gysgu. Pan ofynnais beth oedden nhw yn ei wneud, meddai un: 'We're going to sleep'.

Daeth eu tad n么l o'r rhyfel ac roedd o eisiau mynd a'r plant adref felly n么l a nhw.

Flynyddoedd wedyn, galwodd dynes smart heibio acw - un o'r genod bach oedd hi! Roedd yn neis iawn i'w gweld hi eto."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy