主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mr a Mrs JP Owen Ar y tir
O weithio gyda'r land girls i wylio fflamau Lerpwl dros y d诺r, dyma atgofion Mr a Mrs JP Owen o Lanrwst o weithio ar y tir adeg y rhyfel.

Mr Owen
"Roeddwn yn gweithio ar y tir yn codi bwyd yn Eglwys Bach yn ystod y rhyfel.

Roedd yn adeg prysur iawn - pawb yn troi gan ddefnyddio'r ceffylau a hynny'n job arw, yn wahanol i r诺an.

Mi ddaru rhai o'r bomiau ddisgyn ryw dair milltir o Eglwys Bach - alla i ddim dweud pam, ond dwi'n cofio tri twll mawr, mwy na'r stafell 'ma.

Dwi hefyd yn cofio'r land girls wrth gwrs. Roedden nhw'n byw mewn hostel yn Bodnant. Genod o'r trefi mawr yn Lloegr oedden nhw, ond mi oedden nhw'n d诺ad i arfer efo ni, arfer efo hel tatws, cario'r 欧d, er, doedden nhw ddim yn gwybod lot i gychwyn. Ond ddaru nhw dd诺ad i fedru gweithio'n dda - fysen ni byth wedi codi bwyd hebddyn nhw.

Ond roedd na'n dal rations. Dwi'n cofio rhai yn dod i fyny o'r trefi, eisiau rhywbeth i'w fwyta. Un stori dwi'n ei chofio ydy Sais yn dod i holi am 诺yau i'r ffermydd. Dyma geiliog yn croesi'r hewl, fel 'na, a dyma fo'n gofyn i ni wasgu'r ceiliog i gael w欧 i'w ginio - mae hynny'n ffaith! Doedden ni ddim yn cael rhoi wyau wrth gwrs, er roedden ni'n medru rhoi rhyw gwningen bach weithiau.

Roeddwn i yn yr 主播大秀 Guard. Mi fydden ni'n cael ein dysgu sut i saethu, wedyn cael ein gyrru i ryw hen le i wylio allan am y Germans ond ddaethon nhw ddim."

Mrs TJ WilliamsMrs Owen
"Roeddwn i yn dod o Wytherin ac mi adewais yr ysgol y flwyddyn wnaeth y rhyfel dorri - dwi'n cofio awyrenau'r Germans yn croesi dros y fferm ar eu ffordd i Lerpwl - roedden ni'n gallu dallt y gwahaniaeth rhwng eu s诺n nhw a'r RAF.

Roedden ni hefyd yn gallu clywed y gynnau'n saethu yn Lerpwl a byddai ein t欧 yn ysgwyd weithiau efo'r bomio draw fanno.

Ddaru nhw ollwng bom ar y mynydd tu draw i ni unwaith ym mis Awst, er 'dwi ddim yn cofio pa flwyddyn. Mi ddaru cannoedd o bobl gerdded i fyny i weld yr olew a'r tameidiau o fomiau dros y mynydd. Wedyn yn y gaeaf, mi ddaethon nhw n么l o gollwng 'chwaneg yn yr un fan yn union - maen nhw'n dweud fod 'na ryw air pocket yna, a bod yn rhaid i'r bomwyr wagio eu llwyth neu ddod lawr.

Roedd 'na blackout hefyd wrth gwrs. Roedd yn rhaid i ni guddio hanner golau'r beic gyda phapur llwyd.

Doedd o ddim yn bosib i weld dim ar y fferm chwaith, yn enwedig yn y gaeaf. Doedd na ddim letric yr adeg honno ac roedd yn beryg mynd allan efo lamp i weld yr anifeiliaid gyda'r nos."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy