Catrin o Ferain
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Cipolwg ar fenyw fwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru'r 16eg ganrif.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16
Pwnc : Hanes
Testun : Cymru ganoloesol, Tuduriaid a Stiwartiaid
Allweddeiriau : Tuduriaid, Catrin o Ferain, Pendefigaeth, Hanes fenywod yng Nghymru, Lle menywod yn oes y Tuduriaid
Nodiadau : Trafod beth yw statws a swyddogaethau menywod yn ein cymdeithas ni heddiw. Edrych ar fywyd Catrin o Ferain gan bwysleisio mai eithriad oedd hwn a thrafod y gwahaniaeth rhwng bywyd menywod heddiw a menywod Oes y Tuduriaid. Cyfle i ystyried y dehongliadau o Catrin o Ferain fel seiren chwedlonol neu ddynes fusnes. Cwestiynau ar gynnwys y clip: Pam roedd Catrin yn gyfoethog? Pryd ganwyd Catrin o Ferain? Sawl priodas gafodd Catrin o Ferain? Beth oedd incwm blynyddol Catrin o Ferain? Sut llwyddodd Catrin i gadw ei chyfoeth? Sut oedd bywyd Catrin yn wahanol i fywyd merch gyffredin ar y pryd? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler a am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.
Mwy
Cysylltiadau'r 主播大秀
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.