Gwrthryfel y Pasg
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Archif a disgrifiad cryno o'r Gwrthryfel y Pasg yn Ddulyn 1916.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Cymru Ewrop a'r Byd, Rhyfel Byd Cyntaf, Gwrthryfel y Pasg, Hanes Iwerddon, Annibyniaeth Iwerddon, Y Swyddfa Post, James Connolly, Stryd o'Connell
Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1880-1980, Hanes Iwerddon.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ar 么l gwylio'r clip, gofyn cwestiynau i sbarduno ymholiad pellach i Wrthryfel y Pasg, gan roi sylw arbennig i ddarganfod pwy oedd yr arweinwyr. Cymharu a chysylltu'r digwyddiad hwn gyda gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am y berthynas rhwng Iwerddon a'r Deyrnas Unedig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Sbarduno ymholiad i ddarganfod pa mor arwyddocaol oedd Gwrthryfel y Pasg i hanes Ynysoedd Prydain.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ehangu eu dealltwriaeth o dermau/geirfa angenrheidiol. Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol i feddwl am gwestiynau a thrywydd ymholi pwrpasol. Meddwl am achos ac effaith y digwyddiad yng nghyd-destun y cyfnod a thynged arweinwyr y gwrthryfel.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall difrifoldeb y sefyllfa o ran y berthynas rhwng cenedlaetholwyr Iwerddon a llywodraeth Prydain ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. 2)Deall fod angen dod o hyd i ffynonellau tystiolaeth eraill er mwyn deall arwyddoc芒d y Gwrthryfel yn llawn.
Mwy
Cysylltiadau'r 主播大秀
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.