主播大秀

Cymru ar Ddechrau'r Ugeinfed Ganrif

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Datblygiadau gwleidyddol yng Nghymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Amlinellu'r sefyllfa a'r datblygiadau gwleidyddol yng Nghymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif: y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid, diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria ac etholiad cyffredinol 1900 a aeth i'r Rhyddfrydwyr yng Nghymru o dan arweiniad seren newydd y blaid -David Lloyd George. Golwg hefyd ar b诺er newydd yr undebau a dechrau'r Blaid Lafur yng Nghymru ddiwydiannol - hy. maes glo'r de a chwareli llechi'r gogledd.
O: Canrif o Brifwyl - Awelon Croes
Darlledwyd yn gyntaf : 20 Chwefror 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif,

Allweddeiriau : Newidiadau a fu rhwng 1760 a 1914, Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, Datblygiad Cymru 1900-2000,Newid a gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919, Cymru Ewrop a'r Byd, Ymerodraeth Brydeinig, Rhyfel y Boeriaid, Y Blaid Rhyddfrydol,David Lloyd George

Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU: CA3: Newidiadau a fu rhwng 1760 a 1914 ac ymateb y bobl iddynt. Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919. Datblygiad Cymru, 1900-2000.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr tua 1880-1980. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1918.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried pwysigrwydd papurau newydd a'r wasg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gan eu cymharu 芒 dulliau modern o ledaenu gwybodaeth. Disgrifio rhai o brif arweinwyr gwleidyddol Cymru a Phrydain ar droad y ganrif. Ystyried y mathau gwahanol o ffynonellau sydd ar gael yn y clip a gwerthuso eu dilysrwydd wrth gynnal ymholiad i'r cyfnod. Cymharu a chysylltu'r digwyddiadau gyda rhai tebyg ar adegau gwahanol mewn hanes. Ystyried pa gwestiynau fyddai'n ddefnyddiol i hanesydd eu gofyn.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH:Datblygu geirfa\termau perthnasol i'r pwnc. Cyflwyno gwybodaeth ar lafar drwy gynnal trafodaeth mewn gr诺p.Datblygu sgiliau meddwl drwy ystyried achos ac effaith digwyddiadau a newidiadau hanesyddol. Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol drwy astudio'r cynnwys.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall pa brif bleidiau gwleidyddol oedd yn cystadlu am b诺er ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. 2) Deall pam y digwyddodd newid gwleidyddol ar droad y ganrif.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.