主播大秀

Rhyfel y Falklands 1982

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cyfweliadau gyda dau filwr - un o Gymru ac un o'r Ariannin.

Atgofion o'r rhyfel drwy lygaid dau filwr a anfonwyd i ymladd yn Ynysoedd y Falklands. Ceir cyfweliadau gyda'r ddau filwr Cymraeg eu hiaith yn s么n am eu hatgofion am y rhyfel - Cymro yw un ohonynt, ac un o drigolion Patagonia yw'r un arall, a oedd yn filwr dros yr Ariannin. Yn cynnwys ffilm lachar o'r rhyfel gyda sylwebaeth gryno.
O: Canrif Y Werin - Rhaglen 9
Darlledwyd yn gyntaf : 5 Mawrth 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Agweddau ar Hanes Cymru a Lloegr, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Rhyfel y Falklands, Ynysoedd Malfinas, Hanes yr iaith Gymraeg, Cymru Ewrop a'r Byd, Yr Ariannin, Ymerodraeth Prydain, Sefyllfa ieithyddol Patagonia, Ynysoedd y Falklands,

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000. Rhyfel y Falklands.Hanes yr iaith Gymraeg.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Sbarduno ymholiad i Ryfel Ynysoedd y Falklands. Egluro'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn yr Ariannin.Ystyried pam roedd llywodraeth yr Ariannin wedi celu'r gwir am hanes y rhyfel rhag pobl yr Ariannin hyd y diwedd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am y digwyddiadau yn Ynysoedd y Falklands a/neu gysylltiadau Cymru 芒 Phatagonia. Datblygu geirfa/iaith. Datblygu dealltwriaeth emosiynol drwy werthuso ac egluro ymateb y cyfranwyr yn y clip i'r rhyfel.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myrfywyr yn gallu: 1) Deall pam yr anfonwyd byddin i adennill Ynysoedd y Falklands. 2) Deall cysylltiad Cymru gyda'r Ariannin.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.