Y Gadair Ddu - Heddwyn
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Seremoni cadeirio Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn,Barddoniaeth rhyfel, Cadair ddu, Eisteddfod Genedlaethol 1917, Penbedw, Brwydr Passchendaele, Yr Arwr, Trawsfynydd,
Nodiadau : Ysgogiad i astudiaeth o Hedd Wyn a'i ysgrifeniadau, Potential ar gyfer gwaith sgiliau llythrenedd mewn cyd-destun cryf hanesyddol.
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1900-1919. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried arwyddoc芒d hanesyddol y Gadair Ddu. Defnyddio'r wybodaeth yn y clip i gefnogi ymholiad pellach i agweddau/ymateb pobl i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gwerthuso'r gwahanol fathau o ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddiwyd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu dealltwriaeth emosiynol y dysgwyr drwy werthuso ymateb y Cymry i dynged Hedd Wyn. Datblygu sgiliau llythrennedd drwy lunio cerdd neu ysgrif goffa addas ar gyfer cyfnod y rhyfel byd cyntaf o dan y teitl 'er cof am Hedd Wyn'.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall ymateb pobl i'r digwyddiad. 2) Deall pam mae'r Cymry'n cofio am Hedd Wyn heddiw.
Mwy
Cysylltiadau'r 主播大秀
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.