主播大秀

Saunders Lewis

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Safbwynt Saunders Lewis yn mynegi ei farn am bwysigrwydd yr iaith.

Dangosir Saunders Lewis, mewn cyfweliad o'r 1960au, yn mynegi ei farn fod goroesiad yr iaith yn bwysicach na hunanlywodraeth i Gymru. Ailddarlledwyd y cyfweliad fel rhan o raglen goff盲ol - bu farw Saunders Lewis ym 1985.
O: O Wrthodedig Ffol:Saunders Lewis
Darlledwyd yn gyntaf : 8 Medi 1985

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Agweddau ar Hanes Cymru a Lloegr, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Datganoli,Datblygiad Cymru 1900-2000, Hanes yr iaith Gymraeg, Cymru Ewrop a'r Byd, Yr iaith Gymraeg a hunanlywodraeth, Gwleidyddiaeth, Saunders Lewis, Cenedlaetholdeb

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru,1900-2000. Hanes yr iaith Gymraeg. Enwogion Cymru.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr yn yr ugeinfed ganrif.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried i ba raddau mae safbwynt Saunders Lewis yn cefnogi gwahanol ddehongliadau o ddatblygiad diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ystyried pa mor arwyddocaol yw cyfraniad Saunders Lewis i hanes Cymru. Cynnal ymholiad i ddilysrwydd safbwynt Saunders Lewis o ystyried fod gan Gymru Gynulliad Cenedlaethol bellach.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Cyflwyno gwybodaeth ar lafar i ddatblygu dadl o blaid/yn erbyn safbwynt Saunders Lewis. Ystyried pa gwestiynau i'w gofyn er mwyn ffurfio barn ar ddilysrwydd y ffynhonnell.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr gallu deall sut a pham mae gan bobl safbwyntiau gwahanol am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.