主播大秀

Cerddoriaeth Poblogaidd Gymraeg y 70au

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Sonnir am dueddiad cerddorion i ganu am ddigwyddiadau hanesyddol a phobl 'gyffredin'.

Gan gynnwys perfformiadau gan Meic Stevens a Bryn F么n o'r 1970au, dyma glip byr a diddorol yn s么n am dueddiad cerddorion y cyfnod i ysgrifennu am ddigwyddiadau hanesyddol a bywydau bob dydd y bobl 'gyffredin'.
O: Y Felin Bop - Rhaglen 4
Darlledwyd yn gyntaf : 11 Gorffennaf 1996

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Cerddoriaeth fel prawf hanesyddol, Cymru Ewrop a'r Byd, Diwylliant ieunctid, Roc a R么l, Cerddoriaeth pop, Meic Stevens,Opera Roc, Dic Penderyn, Eisteddfod Genedlaethol, Bryn F么n

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000. Hanes yr iaith Gymraeg.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980. Cerddoriaeth fel prawf hanesyddol.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio rhai o unigolion mwyaf amlwg diwylliant poblogaidd Cymreig y cyfnod. Sbarduno ymholiad pellach i yrfa'r cantorion a/neu ddatblygiad cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru tua diwedd yr ugeinfed ganrif.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am ddiwylliant poblogaidd Cymru yn ystod y 1970au. Datblygu sgiliau meddwl drwy ystyried pa them芒u fyddai'n berthnasol heddiw ar gyfer Opera Roc i'w pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu deall fod cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg wedi ffynnu yn ystod y 1970au.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.