主播大秀

Newid Gwleidyddol ac Economaidd yn y 1970au

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Dangosir dirywiad economaidd a gwrthdaro yn y saithdegau yng Nghymru.

Astudiaeth achos hynod ddefnyddiol o'r dirywiad economaidd a'r gwrthdaro a welwyd yn ystod y degawd hwn. Ceir cipolwg ar fuddugoliaethau Plaid Cymru ar ddechrau'r saithdegau, a golwg ar galedi economaidd yn arwain at gau gweithfeydd diwydiant dur y de yng nghanol y saithdegau.
O: Canrif Y Werin - Rhaglen 8
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Chwefror 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000, Etholiad cyffredinol 1974, Plaid Cymru,Dafydd Elis Thomas, Dafydd Wigley, Gwynfor Evans, San Steffan, Cenedlaetholdeb, Datganoli, Diwydiant dur,Diweithdra,

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio ac egluro'r newidiadau gwleidyddol ac economaidd arwyddocaol a ddigwyddodd yng Nghymru yn ystod y 1970au. Sbarduno ymholiad i hanes Plaid Cymru a'i haelodau seneddol. Cymharu caledi economaidd y 1970au gyda chyfnodau eraill o galedi yn ystod yr ugeinfed ganrif.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am gyfnodau o galedi economaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Datblygu dealltwriaeth emosiynol drwy egluro'r cysylltiad rhwng cau'r diwydiannau mawr ac ymdeimlad o dristwch yn y gymuned.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall pam y bu'r 1970au'n bwysig i Blaid Cymru a chenedlaetholdeb Cymreig. 2) Deall effeithiau trafferthion economaidd y 1970au ar Gymru.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.