Streic Fawr y Penrhyn 1900-03
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Hanes streic Penrhyn ym Methesda a ddechreuodd ym 1900.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+
Pwnc : Hanes
Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif
Allweddeiriau : Newidiadau a fu rhwng 1760 a 1914, Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, Newid a gwrthdaro yng Nghymru tua 1900-1919., Cymru Ewrop a'r Byd,Diwydiant llechi, Streic fawr y Penrhyn, Bethesda,
Nodiadau : CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru. Prydain a'r byd ehangach rhwng 1760 a 1914 ac ymateb y bobl iddynt.
TGAU: Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919. Datblygiad Cymru, 1900-2000.
Safon Uwch: Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1918.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Datblygu dealltwriaeth am achosion tymor hir a thymor byr y streic. Cysylltu a chymharu'r streic gydag anghydfodau diwydiannol eraill yn ystod y 19eg/20fed ganrif. Ystyried sut a pham y mae rhai o drigolion Bethesda wedi ffurfio eu safbwyntiau am y streic. Cofnodi'r gwahanol fathau o dystiolaeth a gyflwynir, a gwerthuso pa mor ddefnyddiol a dibynadwy yw pob un. Dewis a dethol gwybodaeth ffeithiol i gefnogi ymholiad yn canolbwyntio ar Streic Fawr y Penrhyn.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am anghydfodau diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif. Meddwl am achosion ac effeithiau Streic y Penrhyn a gwneud casgliadau. Pwyso a mesur tystiolaeth, gwybodaeth a syniadau sy'n cael eu cyflwyno yn y clip. Ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr a gwella eu defnydd o dermau/geirfa a chysyniadau.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall pam y digwyddodd Streic Fawr y Penrhyn. 2) Deall beth oedd effeithiau'r streic ar y gymdeithas. 3) Deall pam y mae Streic Fawr y Penrhyn yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes Cymru a Phrydain. 4) Deall fod amrywiaeth eang o ffynonellau tystiolaeth ar gael i fod yn sail i ymholiadau hanesyddol.
Mwy
Cysylltiadau'r 主播大秀
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.