主播大秀

Diddymu'r Ddeddf ar gyfer Cau ar y Sul

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Effaith diddymu'r gyfraith o gau ar y Sul.

Cipolwg ar yr ymateb i ddiddymu'r gyfraith ar gyfer cau ar y Sul a'r effaith a gafodd hyn ar gymunedau yn ogystal 芒'r capeli eu hunan.
O: Canrif Y Werin - Rhaglen 10
Darlledwyd yn gyntaf : 12 Mawrth 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Agweddau ar Hanes Cymru a Lloegr, Cymru a Phrydain fodern, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Cau ar y Sul, Capeli, Hanes crefydd yng Nghymru, Ffydd methodistiad, Cristnogaeth, Newid diwylliannol yng Nghymru gyfoes

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru,1900-2000. Hanes crefydd yng Nghymru. Newid diwylliannol yng Nghymru gyfoes.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Sbarduno ymholiad pellach yn canolbwyntio ar y rhesymau dros ddiddymu'r ddeddf ar gyfer cau ar y Sul. Cynnal ymholiad i'r ffordd y newidiodd bywydau pobl Cymru yn dilyn diddymu'r ddeddf i gau ar y Sul. Ymholiad ar sail y cwestiwn canlynol - Ai'r dirywiad yn nifer y capeli fu'n gyfrifol am agor ar y Sul, ynteu ai agor ar y Sul a arweiniodd at gau capeli yng Nghymru?
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am fywyd ar y Sul yng Nghymru. Datblygu geirfa/iaith. Datblygu dealltwriaeth emosiynol drwy ddadansoddi ymateb y fenyw i'r newid ar y Sul.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu; 1) Deall fod bywyd Cymru ar y Sul wedi newid yn ystod yr ugeinfed ganrif. 2) Deall effaith y newid i agor ar y Sul ar gapeli Cymru.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.