主播大秀

Margaret Thatcher ar Ddechrau'r 1980au

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Golygfeydd sy'n dangos prif digwyddiadau'r llywodraeth Thatcher y 1980au.

Crynodeb o brif nodweddion llywodraeth Margaret Thatcher yng nghyd-destun Cymru a Phrydain yn ystod y 1980au - yn cynnwys golygfeydd o'r rhyfel y Falklands, streic y Glowyr a Thatcher eu hunan.
O: Canrif Y Werin - Rhaglen 9
Darlledwyd yn gyntaf : 5 Mawrth 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain diwydiannol, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Cymru Ewrop a'r Byd, Datblygiad Cymru 1900-2000, Yr wythdegau, Rhyfel y Falklands,Streic y glowyr, Y Ddynes Haearn, Margaret Thatcher, Preifateiddiaeth, Dirywiad economaidd,

Nodiadau :
Crynodeb effeithiol iawn o'r wleidyddiaeth ar ddechrau'r wythdegau er mwyn ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion a phersonoliaethau'r degawd.
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000. Gwleidyddion arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio prif ddigwyddiadau'r 1980au dan lywodraeth Thatcher. Sbarduno ymholiad pellach i'r digwyddiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y clip. Ystyried pam mae Margaret Thatcher yn unigolyn arwyddocaol yn hanes Cymru a Phrydain yn yr ugeinfed ganrif. Ystyried y gwahanol fathau o ffynonellau tystiolaeth sy'n cael eu defnyddio.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am lywodraeth Margaret Thatcher. Datblygu geirfa/iaith.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu deall pwysigrwydd Margaret Thatcher i hanes y 1980au.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.