主播大秀

Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Sieffre Fynwy 漏 Monmouth Priory

23 Mawrth 2009

Diwylliant llenyddol

Rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, roedd newidiadau cymdeithasol a chrefyddol, dyfodiad y wasg argraffu a'r Dadeni yn trawsnewid diwylliant llenyddol traddodiadol Cymru. Wrth i'r tirfeddianwyr mwyaf ymseisnigo fwyfwy, wrth i'r m芒n sgweieriaid golli cyfoeth ac wrth i ddiddordebau diwylliannol newid, crebachodd byd y beirdd. Tan o leiaf flynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, ysgrifennwyd llu o gerddi yn y mesurau caeth, er i'r llywodraeth geisio ffrwyno'r clerwyr llai parchus. Ond roedd y beirdd yn drwgdybio'r gair printiedig a gwerthoedd y Dadeni, arwydd o'r meddylfryd caeedig a fyddai arwain at dranc eu traddodiad.

Ymhlith dyneiddwyr Cymreig y Dadeni roedd awydd i ddiogelu purdeb a chyfoeth y Gymraeg, a rhoi iddi'r parch a ddangosid i ieithoedd y byd clasurol. Aethant ati i greu geiriaduron a llyfrau gramadeg, i ddadlau o blaid honiad Sieffre o Fynwy bod gan y Cymry dras lawn mor urddasol 芒 thras y Rhufeiniaid, ac i ysgrifennu am hanes eu gwlad a'u siroedd. Yn bennaf oll, sicrhawyd bod y Gymraeg yn iaith addoliad. Gellir priodoli hynny'n gymaint i falchder diwylliannol ag i s锚l grefyddol. Hefyd, chwedl yr hanesydd R. T. Jenkins, 'mynnai'r bobl ryw fath o lenyddiaeth', ac roedd rhai'n fwy na pharod i'w bodloni trwy gynhyrchu almanaciau, baledi, anterliwtiau, caneuon, carolau ac emynau. Wrth i'r hen draddodiad llenyddol edwino, arweiniodd yr awydd i ddiogelu'r dystiolaeth ohono at lawer o gasglu a chop茂o llawysgrifau. Erbyn y ddeunawfed ganrif, cafwyd ymdrechion i adfer yr hen fesurau, yn enwedig felly gan y bardd o Ynys M么n, Goronwy Owen.

Y celfyddydau eraill ac ysgolheictod

Daeth pensaern茂aeth y Dadeni i Gymru yn y 1570au gyda'r adeiladau a godwyd yn Sir Ddinbych gan y marsiandwr, Richard Clough, yntau 芒 chysylltiad agos 芒 dinasoedd cyfoethog yr Iseldiroedd. Er hynny, perthyn i'r traddodiad is-ganoloesol yr oedd trwch yr adeiladau a godwyd. Yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn y ddeunawfed ganrif, adeiladwyd nifer o dai crand yng Nghymru a harddwyd trefi megis Aberhonddu a Threfaldwyn gan ffasadau tai oedd wedi eu haddurno'n gain. Cefnwyd ar gerddi ffurfiol, fel honno yn Aberglasne, a ffafriwyd tirlunio mwy naturiol trwy blannu coed a chreu llynnoedd. Ni chyflawnwyd ryw lawer yng Nghymru ym meysydd arlunio a cherflunio, er i rai o'r tirfeddianwyr mwyaf diwylliedig ddod yn gasglwyr o fri. Doedd dim cymaint o fynd ar gerddoriaeth draddodiadol ond parhaodd y diddordeb mewn canu 芒 chanu'r delyn, a gellir canfod egin y diddordeb mewn cerddoriaeth gorawl.

Ysgolhaig mwyaf Cymru'r cyfnod modern cynnar oedd Edward Lhuyd. Sefydlodd y cysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd a chynigiodd ddamcaniaethau ystyriol yngl欧n ag arwyddoc芒d hynafiaethau, botaneg a daeareg Cymru. Hybu ysgolheictod Cymreig oedd un o amcanion Cymdeithas y Cymmrodorion a sefydlwyd gan Gymry Llundain yn 1751.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.