主播大秀

Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol

Baner Cymru

23 Mawrth 2009

A gydnabuwyd cenedligrwydd Cymreig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Yn 1850 prin oedd y sefydliadau cenedlaethol Cymreig. Er bod y Methodistiaid Calfinaidd yn gweithredu o fewn i Gymru gyfan, pedair esgobaeth oddi mewn i archesgobaeth Caer-gaint oedd trefn yr Eglwys Wladol yng Nghymru, ac nid oedd gan yr Annibynwyr na'r Bedyddwyr gyrff canolog gwerth s么n amdanynt.

Cafodd system llysoedd Cymru - Y Sesiwn Fawr - ei diddymu yn 1830, gan adael strwythurau cyfreithiol a gweinyddol Cymru'r un fath yn union 芒 rhai Lloegr. Ar wah芒n i Gymdeithas y Cymmrodorion, a atgyfodwyd yn 1820, a Chymdeithas Hynafieithau Cymru a sefydlwyd yn 1847, nid oedd yr un sefydliad addysgol na diwylliannol cenedlaethol, ac nid oedd yr un gymdeithas economaidd na phroffesiynol yn cydnabod undod y wlad. Ystyrid mai tair teyrnas oedd o fewn y Deyrnas Unedig - Lloegr (oedd yn cynnwys tywysogaeth Cymru), yr Alban ac Iwerddon, cred a oedd, ac y sydd, yn cael ei hadlewyrchu ym maner yr undeb a'r faner frenhinol. Ni fyddai llawer wedi cefnogi'r syniad bod pedair cenedl o fewn y Deyrnas Unedig, a bod Cymru'n haeddu'i thrin yr un fath 芒 chenhedloedd eraill y deyrnas.

Yn ystod y ganrif ddilynol newidiodd hyn, ac mae'r newid yn cynrychioli un o lwyddiannau mawr y Cymry gwladgarol.

Yr ymwybyddiaeth o Gymreictod ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Er nad oedd Cymreictod yn cael ei gydnabod ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, doedd dim amheuaeth yngl欧n 芒'i fodolaeth. I'r iaith Gymraeg yn bennaf y dylid priodoli hynny. Er na chafwyd cyfrifiad yn dangos faint oedd yn siarad Cymraeg tan 1891, roedd o leiaf dri chwarter poblogaeth y wlad yn siarad Cymraeg yn 1850, a'r mwyafrif yn uniaith Gymraeg.

Mae cryfder y Gymraeg i'w weld yn nifer y cyfnodolion Cymraeg: yn 1866, cyhoeddwyd pum cyfnodolyn chwarterol, 25 cyfnodolyn misol ac wyth wythnosolyn yn yr iaith. Roedd cyfanswm eu cylchrediad yn 120,000; yn ogystal, roedd llyfrau barddoniaeth, yn enwedig rhai Ceiriog, yn gwerthu hyd at 30,000 o gop茂au.

Roedd Cymreictod yn amlygu'i hunan mewn ffyrdd eraill hefyd. Roedd gan draddodiadau crefyddol Cymreig eu nodweddion arbennig eu hunain; felly hefyd drefniadau gosod a rhentu eiddo yng nghefn gwlad o'u cymharu 芒 Lloegr; hydreiddiwyd mudiadau radical 芒 Chymreictod, ac roedd cymunedau diwydiannol Cymru, gyda'u lleoliadau ucheldirol, yn unigryw. Roedd ymwelwyr 芒 Chymru, teithwyr megis George Borrow yn fwyaf nodedig, yn argyhoeddedig eu bod mewn gwlad 芒'i chymeriad arbennig ei hunan.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.