主播大秀

Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol

David Lloyd George

23 Mawrth 2009

Cymru Fydd

Sefydlwyd mudiad Cymru Fydd yn 1886 ac roedd iddo fwy nag un amcan, rhai efallai yn groes ddweud ei gilydd. Roedd yn ceisio hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru, hybu ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb a chefnogi achos datganoli i Gymru. Yn y 1890au daeth yn gyfrwng i hybu uchelgais Lloyd George, a frwydrodd yn galed i geisio rhoi mwy o stamp Cymreig ar bolis茂au'r Rhyddfrydwyr yng Nghymru. Ond mewn cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 dangosodd canran helaeth o gefnogwyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru bod hyn yn annerbyniol, ac erbyn diwedd y ganrif daeth y mudiad i ben.

Atgyfodwyd y syniad o hunan lywodraeth yn 1910 gan E T John, yn benodol yng nghyd-destun Iwerddon a'r tebygrwydd y byddai'r Gwyddelod yn cael llywodraethu eu hunain. Trafodwyd y pwnc yn helaeth eto yn y blynyddoedd yn syth wedi'r rhyfel, ac er i Gymru gael rywfaint o ddatganoli gweinyddol, ni fu unrhyw newid sylfaenol.

Yn 1925 ffurfiwyd Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru, the Party of Wales yn ddiweddarach) ond plaid ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru oedd hi, tan o leiaf y 1950au.

Y genedl yn newid

Y ddelwedd a geir gan Thomas Edward Ellis a'r addysgwr o fri, Owen M Edwards, yw o Gymru fel gwlad o bobl ddarbodus sy'n ofni Duw, yn siarad Cymraeg ac yn byw yn y wlad. Ond erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, nid dyna fel roedd pethau mewn gwirionedd. Gyda dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn siroedd Morgannwg a Mynwy roedd mwyafrif y Cymry'n byw mewn cymunedau trefol a diwydiannol. Er yr adfywiad crefyddol a daniwyd gan ddiwygiad 1904-05, roedd secwlariaeth ar gynnydd. Yn 1901 roedd hanner trigolion Cymru'n siarad Cymraeg ond roedd y ganran wedi gostwng i 43% erbyn 1911, gyda naw o bob deg ohonynt yn honni eu bod yn deall rhywfaint o Saesneg. Codai'r newidiadau hyn gwestiynau yngl欧n 芒 natur Cymreictod, pwnc a fyddai'n achosi gwewyr a dadlau mewn blynyddoedd i ddod.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.