主播大秀

Cynhanes Cymru

Cromlech Pentre Ifan 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

08 Rhagfyr 2008

Y trigolion cynharaf

Mae'r dystiolaeth gynharaf yngl欧n 芒 phresenoldeb bodau dynol yng Nghymru yn mynd yn 么l i tua 225,000 CC, y dyddiad a roddwyd i ddannedd g诺r ifanc a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd yn Nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych. Yn ystod trwch y milenia dilynol - cyfnodau pan roedd y rhan helaethaf o'r wlad o dan i芒 - diau nad oedd neb yn byw yng Nghymru. Y dystiolaeth fwyaf cyffrous o bresenoldeb pobl o'r cyfnod Palaeolithig (cyfnod Hen Oes y Cerrig) yng Nghymru yw olion claddedigaeth a ddarganfuwyd yn Ogof Pen-y-fai (Paviland) ym Mro Gw欧r. Yn wreiddiol, credwyd mai olion menyw oedd yn yr ogof, a chan bod yr esgyrn wedi'u lliwio ag ocr, rhoddwyd i'r ysgerbwd yr enw 'Dynes Goch Paviland'. Gwyddys bellach mai sgerbwd g诺r ifanc ydyw, yn dyddio o tua 24,000 CC. Ym Mhen-y-fai y mae'r gladdedigaeth ddefodol gynharaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Y Cyfnod Mesolithig neu Oes Ganol y Cerrig (10,000-4000 CC)

Mae presenoldeb di-dor trigolion yng Nghymru'n dechrau tua 9,000 CC gyda diwedd y diweddaraf o'r Oesoedd I芒. 脗'r i芒 yn dadlaith, cododd lefel y m么r; trodd Prydain yn ynys, ac, erbyn tua 5000 CC, roedd gan Gymru mwy neu lai y si芒p sydd ganddi heddiw. Wrth i'r tymheredd godi, tyfodd gorchudd o goed, amgylchfyd y cymunedau prin o fodau dynol a drigai yng Nghymru yn y milenia wedi enciliad yr i芒.

Y Cyfnod Neolithig neu Oes Newydd y Cerrig (4000-2400 CC)

O gasglu a hela y deilliai ymborth y bobl Fesolithig, ond, o tua 4000 CC, ceir tystiolaeth gynyddol o fodolaeth cymunedau yng Nghymru a gynhelid gan amaethyddiaeth. Y rhain oedd cymunedau'r bobl Neolithig, pobl a ffurfiai dir agored i'w cnydau gan ddefnyddio bwyeill carreg.

Henebion godidocaf y cyfnod Neolithig yw'r siambrau claddu neu'r cromlechi. Mae'r cromlechi'n brawf bod yn y Gymru Neolithig gymunedau pur boblog, y rheini 芒 chryn allu cyfundrefnol. Mae dosbarthiad y siambrau claddu yn awgrymu adnabyddiaeth o'r llwybrau m么r a gysylltai Cymru ag Iwerddon, Llydaw a Sbaen. Yr hynotaf o gromlechi Cymru yw Barclodiad y Gawres ar Ynys M么n. Yr addurniadau ar gerrig yn y gromlech yw'r enghreifftiau cynharaf yng Nghymru o waith celf.

Yr Oes Efydd (2500-700 CC)

Erbyn tua 2500 CC, roedd offer metel o fewn cyrraedd nifer cynyddol o bobl. Credid gynt mai ymfudwyr a ddaeth ag offer o'r fath i Brydain, a dehonglwyd cynhanes yr ynys yn nhermau ton ar 么l ton o wladychwyr. Bellach, sylweddolir bod diwylliannau brodorol Prydain 芒'r gallu i newid a datblygu, a bod gan Gymru y rhan fwyaf o'i stociau cynhenid o drigolion erbyn tua 2000 CC, damcaniaeth a ategir at ei gilydd gan astudiaethau genetig. Medrai safon gwaith metel yr Oes Efydd fod yn hynod uchel. Arbennig o wych yw'r clogyn a ddarganfuwyd yn yr Wyddgrug yn 1833; credir ei fod yn dyddio o tua 1500 CC a'i fod wedi'i lunio o un cnepyn o aur.

Agwedd arbennig o gyffrous yn ymwneud 芒 Chymru'r Oes Efydd yw'r cerrig o Fynyddoedd y Preseli. Tua 2000 CC, codwyd yng Ngh么r y Cewri gylch o ryw 80 o gerrig, pob un yn pwyso oddeutu pedair tunnell. Credir mai tarddle'r cerrig oedd chwarel ar Fynyddoedd y Preseli. Bu cryn ddyfalu sut y cludwyd cerrig mor drwm i Dwyni Wiltshire, a damcaniaethwyd hefyd yngl欧n 芒'r cymhelliad dros wneud hynny.

Yr Oes Haearn (700 CC - OC 48)

Y gwrthrych haearn cynharaf i'w ddarganfod yng Nghymru yw cleddyf a luniwyd tua 600 CC ac a daflwyd i dd诺r Llyn Fawr uwchlaw'r Rhondda. Mwyn haearn yw mwyn mwyaf cyffredin y ddaear, ac, o wybod sut i'w smeltio, ceir cyflenwad dihysbydd bron o ddeunydd i wneud offer, cyfarpar ac arfau. Yr adeiledd mwyaf nodweddiadol o'r Oes Haearn yw'r fryngaer. Ceir dros chwe chant ohonynt yng Nghymru, a darganfuwyd olion strydoedd o dai yn rhai o'r helaethaf ohonynt, prawf bod yr economi mewn rhannau o Gymru yng nghanrifoedd olaf y cyfnod cynhanesyddol 芒'r gallu i gynnal cymunedau a ymylai at fod yn drefol.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.