主播大秀

Rhyfel a Dirwasgiad

Merched yn gweithio'r tir

23 Mawrth 2009

Yr Ail Ryfel Byd

Fe wnaeth y rhyfel ddatrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn 1941 roedd swydd gan bron bawb oedd yn abl i weithio, ac roedd canran y menywod a ymunai 芒'r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, lladdwyd tua 15,000 o Gymry yn y rhyfel a galwyd ar lawer mwy i fynd i weithio mewn ffatr茂oedd yn Lloegr. Gwellodd cyflogau, a chan nad oedd llawer o nwyddau ar gael i'w prynu, canfu teuluoedd y dosbarth gweithiol am y tro cyntaf fod ganddynt ychydig o arian wrth gefn.

Credid bod Cymru'n rhy bell i'r gorllewin i gyrchoedd awyr yr Almaenwyr; gwnaeth y faciw卯s ac eraill oedd yn ffoi rhag y bomio ychwanegu rhyw 200,000 at nifer trigolion Cymru. Ond di-sail oedd y gred bod Cymru'n ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd awyr enbyd ar Abertawe ym mis Chwefror 1941. Serch hynny, sefydlwyd nifer o ddiwydiannau rhyfel yng Nghymru oherwydd y gred ei bod yn lle diogel, gan gynnwys ffatri arfau enfawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Crebachodd y galw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, gan greu gobaith y byddai mwy o amrywiaeth yn yr economi Gymreig wedi'r rhyfel. C芒i ffermwyr fwy o arian am eu cynnyrch oherwydd y prinder bwyd a rhoddodd hyn hwb newydd i'r byd amaeth.

Wrth i'r rhyfel lusgo ymlaen roedd teimlad o benderfyniad yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, na fyddai dioddefaint y 1930au yn cael ei ailadrodd. Dyma efallai'r prif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1945.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.