主播大秀

Cymdeithas Newydd

Actores yn portreadu y Frenhines Fictoria

23 Mawrth 2009

Lle'r fenyw

Un o'r newidiadau mwyaf yn y gymdeithas Gymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd y gwelliant yn statws menywod a'r effaith a gafodd hynny ar y syniad traddodiadol am fywyd teulu.

Yng Nghymru oes Victoria, y gwragedd oedd 'angylion yr aelwyd', ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif prin oedd y swffragetiaid tanbaid, o leiaf y tu allan i drefi mawr fel Caerdydd. Gwelwyd peth gwelliant yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel wrth i wragedd gael yr un hawliau pleidleisio 芒 dynion, a chydnabyddiaeth bod ganddynt yr un hawliau dros eu plant a'u heiddo ag oedd gan eu gw欧r.

Serch hynny, yn 1945, llai na chwarter y gweithlu oedd yn fenywod. Cynyddodd y ganran hon yn gyflym yn y blynyddoedd a ddilynodd, yn rhannol oherwydd dirywiad y diwydiannau trymion. Erbyn y 1990au Treorci yng Nghwm Rhondda oedd un o'r amryw o leoedd yng Nghymru lle'r oedd mwy o fenywod na dynion mewn gwaith. Ond enillai menywod llai o dipyn nag yr enillai dynion. Roedd teuluoedd yn cael llai o blant - tuedd oedd i'w gweld ers o leiaf y 1920au - ac erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain doedd poblogaeth Cymru prin yn cynnal ei niferoedd ei hun.

O ran bywyd teuluol roedd y syniad o gyplau yn colli arwyddoc芒d a mwy a mwy o famau sengl yn magu plant, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd gallu menyw i reoli ei ffrwythlondeb yn gam enfawr, ac nid yw arwyddoc芒d hyn wedi llawn amlygu'i hun eto.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.