主播大秀

Cymru a'r Rhufeiniaid

Eryr - arwyddlun y Rhufeiniaid

08 Rhagfyr 2008

Cymru ar drothwy goresgyniad y Rhufeiniaid

Cyrhaeddodd lluoedd Rhufain ffiniau Cymru yn OC 48, bum mlynedd ar 么l iddynt ddechrau eu hymgyrch ym Mhrydain. Wrth gwrs, nid oedd Cymru'n bod y pryd hwnnw mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Roedd y wlad yn gartref i o leiaf bum llwyth: y Deceangli yn y gogledd ddwyrain, yr Ordovices yn y gogledd orllewin, y Demetae yn y de orllewin, y Silures yn y de ddwyrain a'r Cornovii ar y gororau.

Yr ymosodiadau cynnar

Ym mro'r Deceangli y bu gyda'r cynharaf o ymosodiadau'r Rhufeiniaid ar Gymru. Y bwriad oedd gosod arwydd o'u grym rhwng ucheldir Cymru ac ucheldir y fro a fyddai yn ddiweddarach yn ogledd Lloegr. Yn OC 49, aeth y Rhufeiniaid ati i wahanu trigolion Cymru oddi wrth drigolion de-orllewin Prydain drwy godi caer o sylwedd yng Nghaerloyw.

Y goresgyniad

Rhwystrwyd cynlluniau'r Rhufeiniaid gan ymgyrchoedd y Silures, y rheini o dan arweiniad Caradog, tywysog y Catuvellauni, a oedd wedi ffoi i dde-ddwyrain Cymru o diriogaeth ei lwyth yn Essex. Yn OC 52, trechwyd lleng Rufeinig ganddynt. Ond cipiwyd Caradog, a bu farw yn Rhufain tua OC 54. Chwe blynedd yn ddiweddarach ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys M么n, cadarnle'r derwyddon, hwythau'n ysbrydoli'r gwrthwynebiad i'r Rhufeiniaid. Erbyn 75 roedd y Silures wedi'u gorchfygu, ac erbyn y 80au, ar 么l i'r Ordovices gael eu trechu, roedd y cyfan o'r hyn fyddai'n Gymru a Lloegr o dan reolaeth y Rhufeiniaid.

Y drefn filwrol

Buan y sylweddolodd y Rhufeiniaid natur ddaearyddol deheudir Prydain, gyda'r rhaniad rhwng rhanbarth yr iseldir a rhanbarth yr ucheldir. Trefnwyd rhanbarth yr iseldir, a gyfatebai i'r hyn a fyddai de, dwyrain a chanolbarth Lloegr, fel tiriogaeth sifil. Trefnwyd rhanbarth yr ucheldir, a gynhwysai Cymru a'r hyn a fyddai gogledd a de-orllewin Loegr, yn diriogaeth filwrol. Yng Nghaerefrog, Caer a Chaerllion codwyd lleng-gaerau, pob un ohonynt yn medru bod yn gartref i 5,600 o ddynion. Yn ogystal 芒 lleng-gaer Caerllion, adeiladwyd yng Nghymru o leiaf 30 o is-gaerau, y rheini o fewn taith diwrnod i'w gilydd ar hyd heolydd syth.

Derbyn a gwrthod

Gan i fwyafrif trigolion pobl Cymru dderbyn y drefn Rufeinig, byrhoedlog fu'r angen am arsiwn llawn yng nghrynswth y caerau. Yr eithriadau, mae'n ymddangos, oedd y caerau ym mro'r Ordovices. Yn y Fforwm yn Rhufain heddiw, ceir map anferth o'r Ymerodraeth Rufeinig mewn mos盲ig; nid ydyw'n awgrymu bod y fro honno'n rhan o'r Ymerodraeth. Er i'r Silures herio awdurdod y Rhufeiniaid, daethant i dderbyn eu rheolaeth. Caerllion yw'r lle gorau yn Ewrop i werthfawrogi cynllun lleng-gaer Rufeinig, ond ni fu angen cadw lleng gyfan yno ar 么l tua OC 120.

Trefi a fil芒u

Tua 12 milltir i'r dwyrain o Gaerllion, sefydlodd y Rhufeiniaid dref Venta Silurum (Caer-went) fel prif dref y Silures. Yn ei hanterth, roedd gan Gaerwent bron i dair mil o drigolion. Fersiwn bychan o Rufain ydoedd, gyda'i basilica, fforwm, baddonau, temlau, a'i thai gyda gwres canolog, murluniau a lloriau mos盲ig. Yn ogystal, mae'n bosib bod Moridinum (Caerfyrddin) wedi'i chydnabod yn brif dref y Demetae. Rhufeinig hefyd oedd y fil芒u, tai gwledig moethus yr uchelwyr brodorol hynny a oedd wedi mabwysiadu arferion y Rhufeiniaid. Codwyd un yn Llanilltud Fawr, un arall yn Nhrel谩i ger Caerdydd ac o leiaf dri yng nghyffiniau Caer-went.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.