主播大秀

Aberystwyth (parhad)

top
Eglwys St Padarn

Llanbadarn Fawr

Ar un adeg hwn oedd y plwyf mwyaf yng Nghymru. Fel y sylwyd eisoes, bu tref Aberystwyth yn rhan ohono.

Saif yr Eglwys hanesyddol ar safle'r Cl么s Canoloesol, lle bu Sulien, esgob Tyddewi yn bennaeth cyn dyddiau Padarn Sant. Yn y gangell mae bedd Lewis Morris o F么n, ac ar y parwydydd ceir cofebau i aelodau teuluoedd Gogerddan, Nanteos a Lovesgrove. Neilltuwyd asgell ddeheuol yr eglwys yn amgueddfa hynod ddiddorol.

Er mai pentref yw Llanbadarn mae ynddo ddau goleg, sef Coleg Llyfrgellwyr Cymru sydd bellach yn rhan o Goleg Prifysgol Cymru a'r Coleg Amaethyddol. Dau gapel sydd yma, Saron gan y Presbyteriaid a Soar gan yr Annibynwyr, sy'n dathlu dau gan mlwyddiant eleni.

Rhwng Llanbadarn a Phenparcau mae dwy stad - Glan yr Afon a Pharcyllyn.

Dros yr afon Rheidiol deuwn i Benparcau. Dyma le a dyfodd mewn poblogaeth yn anad yr un o faestrefi Aberystwyth. Mae'r stadau tai ym ymestyn i bob cyfeiriad; tuag at Lanbadarn, Aberystwyth, Capel Seion, Trawscoed, Llanfarian a hyd yn oed i Ben Dinas.

Mae Eglwys Santes Ann yn rhan o blwyf rheithorol Aberystwyth gyda'i Ficer ei hun. Mae yma Eglwys Gatholig a chapel Ebenezer gan y Presbyteriaid. Ar ochr y bryn gyferbyn 芒 Llanbadarn mae Bodlondeb, cartref henoed, a dros y ffordd iddo mae ysgol Llwyn yr Eos, yn ysgol weithgar dros ben. Mae'r Neuadd Goffa, man cyfarfod Sefydliad y merched a chymdeithasau eraill, yn ganolfan hwylus i'r boblogaeth, sy'n dal yn gymuned gartrefol.

Penglais

I fyny rhiw Penglais tua'r Gogledd, saif y Waunfawr, maesdref arall a dyfodd ar raddfa eang. Ar un adeg pentref gydag ysgol, capel a siop neu ddwy ac ambell d欧 sylweddol ydoedd, a'r tir o'i amgylch yn gorsiog. Bellach cyrhaeddodd neuaddau preswyl y Brifysgol cyn belled i fyny'r bryn ac Ysgol Gyfun Penglais yn hawlio lle amlwg. Gyferbyn mae archfarchnad sy'n cynnwys y Swyddfa Bost, a stadau tai'n gorchuddio'r tir o'r ffordd fawr yn y gogledd i lawr bron cyn belled 芒 Llanbadarn. Codwyd Neuadd Gymuned sydd yn gyrchfan boblogaidd ac yn rhoi rhyw fath o unoliaeth i'r pentref.

O'r Waunfawr ymuna'r ffordd tua'r gogledd o Lanbadarn i fynd 芒 ni i Gomins Coch. Pentref bychan oedd hwn ar un adeg gyda chapel Presbyteraidd, Ebenezer, ac ysgol ddyddiol a weithredai fel addoldy i'r Eglwyswyr ar y Sul. Yr oedd yno Swyddfa Bost a siop. Mae'r boblogaeth bellach mewn dwy stad, Brongwynai a Threfaenor, gyda rhai tai, hen a newydd yn y pentref. Agorwyd ysgol yn ymyl stad Brongwynai. Caewyd yr ysgoldy a'r capel ac nid oes nas siop na Swyddfa Bost yno mwyach. Er hynny deil y trigolion i uno fel cymuned.

Argraffu yn Aber

O ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, daeth Aberystwyth yn ganolfan bwysig i'r diwydiant argraffu, gydag enwau Samuel Williams a'i wraig Esther, John Cox a David Jenkins ymhlith y rhai adnabyddus.

Cyhoeddwyd rhai papurau newyddion, yr enwocaf yw The Cambrian News o dan olygyddiaeth John Gibson a ddaeth i'r dref yn 1873. Tyfodd i fod yn un o bapurau pwysicaf Cymru yn ei gyfnod. Y mae'n dal i gylchredeg. Yn 1899 cychwynnwyd cyhoeddi The Welsh Gazette a ddarparai newyddion mwy lleol; daeth i ben yn 1964. Yn 1977 y cychwynnwyd cyhoeddi y papur bro Yr Angor, gyda Llywelyn Phillips yn olygydd.

Yr adeilad amlycaf yn Aberystwyth yw Hen Goleg Prifysgol Cymru. Wedi ei godi'n wreiddiol yn westy, newidiwyd er yn dipyn arno wedi'r t芒n dinistriol yn 1889. Yn sownd wrtho mae'r coleg Diwinyddol Presbyteraidd sydd wedi cau; hwn eto'n adeilad solat, nodweddiadol o ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn ymyl, yn wynebu'r castell mae'r rhes tai Sioraidd Laura Place sy'n unigryw yn y dref. Ond mae yma nifer o dai unigol o ddiddordeb pensaern茂ol mewn gwahanol strydoedd.

Chwaraeon

Mae chwaraeon yn rhan bwysig iawn o fywydau nifer o drigolion y dref; mae yna glybiau bocsio, moduro, athletau, gymnasteg, hoci a marchogaeth, yn ogystal 芒'r campau mwy traddodiadol megis golff, dartiau, rygbi a ph锚l-droed.

Mae'r Clwb Golff, un sydd 芒 rhai o'r golygfeydd harddaf yn y wlad, o fewn cyrraedd hawdd i'r dref, ac yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a brodorion fel ei gilydd. Mae cynghreiriau dartiau yn brysur iawn; Cynghrair y Gwragedd ar nos Lun, a'r Dynion ar nos Iau. Mae Clwb Rygbi Aberystwyth, a' i bencadlys ym Mhlascrug, yn Nhrydedd Adran y Gorllewin.

P锚l droed - prif g锚m y dref

Does fawr o amheuaeth, fodd bynnag, taw p锚l-droed yw prif g锚m y dref. Mae Clwb P锚l-droed Tref Aberystwyth yn aelodau o Uwch-Gynghrair Genedlaethol Cymru o'r cychwyn, ac yn gyson yn denu torfeydd o dros 500 i'w gemau, a mwy fyth ar achlysuron arbennig.

Mae t卯mau hefyd ym Mhenparcau a Llanbadarn Fawr, y rhain yn aelodau o'r Gynghrair leol.Ym myd p锚l-droed y gwelir rhai o'r esiamplau gorau o gyd-weithio rhwng myfyrwyr y Brifysgol a'r gymuned leol, gyda nifer o fyfyrwyr ymhlith cefnogwyr mwyaf brwd y Clwb P锚l-droed, a tri th卯m o fyfyrwyr yn y Cynghreiriau lleol.

gan Mari Ellis


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.