主播大秀

Hanes trefi a phentrefi gogledd Ceredigion (parhad)

top
Llyn Eiddwen

Taith hanesyddol o amgylch Ceredigion yng nghwmni Eirionedd Baskerville.

Ardal fynyddig y fro

Daw tri phentref at ei gilydd, Llangwyryfon, Llanrhystud a Blaenpennal, ar ynys fechan yng nghanol Llyn Eiddwen. Mae afon Wyre yn rhedeg o Fynydd Bach drwy Ledrod a Llangwyryfon i'r m么r yn Llanrhystud, gyda ffermydd o bobtu'r afon. Yn rhan arall y plwyf, uwchben hen Glawdd y Mynydd, mae clwstwr o dyddynnod bach Trefenter, olion tai un-nos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan sgwatwyr crwydrol. Mae s么n yma, hefyd, am garneddi a Ffynnon Ddrewi iachusol ar Fynydd Bach.

Cofeb y Beirdd

Ardal fynyddig y plwyf yw Trefenter a Mynydd Bach. Yn 1819 prynodd Sais o'r enw Augustus Brackenbury stad yno a dechrau cau'r tir comin a chodi tai, gan beri i'r trigolion ofni y byddent yn colli'r hawl i bori ar y comin. Dyma ddechrau Rhyfel y Sais Bach fel y'i gelwir, gwrthdaro a barodd am ddeng mlynedd. Adeiladodd d欧 iddo ei hun ond fe'i llosgwyd i'r llawr.

Adeiladodd d欧 arall mwy diogel, Castell Talwrn, a chyflogi dynion i'w warchod, ond aeth hwnnw eto ar d芒n yn 1826. Ym 1828 adeiladodd drydydd t欧 a'i alw'n Cofadail Heddwch. Gadawyd ef yn llonydd wedyn, ond ymhen dwy flynedd fe gododd ei bac ac aeth o'r fro, ar 么l gwerthu ei dir i rai o'r trigolion lleol. Mae 么l Castell Talwrn gyda'i d诺r a'i ffos yn Nhrefenter o hyd; mae pobl yn byw yng Nghofadail Heddwch, a Chofadail yw enw'r ysgol leol.

Mae ardal Mynydd Bach yn enwog hefyd am bedwar bardd a fagwyd yno - T. Hughes Jones, Prosser Rhys, B. T. Hopkins a J. M. Edwards. Dadorchuddwyd cofeb iddynt ar ben y mynydd yn 1992 gan Mrs B. T. Hopkins.

Dychwelwn yn awr i Lanilar ac er bod pont sigl o gyffiniau hen orsaf Llanilar i'r ochr draw ger Pyllau Isaf, er mwyn cyrraedd pentref Y Gors rhaid teithio'r holl ffordd i bont Trawsgoed ac i lawr trwy bentreflan Abermagwr.

Hen efail Abermagwr

Mae'r gof yn dal i weithio yn efail Abermagwr, efail a adeiladwyd gan un o deulu'r Plas, ond mae'r hen felin goed wedi peidio ers blynyddoedd.

Adroddiad Dug Beaufort

Mae'r ffordd fawr yn mynd heibio i d欧 o'r enw Ffynnon Drindod a ffermdy Llanddwy. Roedd y llecyn yn gyrchfan i bererinion yn y canol oesoedd, oherwydd d诺r iachusol Ffynnon Drindod, y mae s么n amdani mor gynnar 芒 1684 pan ymwelodd Dug Beaufort 芒'r ardal.

Mae adroddiad yn y Welsh Gazette ym 1924 yn adrodd sut y byddai cryn rialtwch yn y ffair hon, gyda'r trigolion yn meddwi mewn tafarn gyfagos. Yn 么l yr hanes, roedd un o etifeddion Y Trawsgoed mor feddw un tro fe dorrodd bun o wallt un o'r merched gyda'i gleddyf, ac o ganlyniad rhoddwyd taw ar y ffair a'r dafarn.

Mewn t欧 o'r enw Brynawel yn Y Gors, bu'r nofelydd Caradog Evans a'i wraig yn byw am gyfnod, ac er nad oedd yn wreiddiol o'r ardal, gorchmynnodd mai ym mynwent Horeb Y Gors yr oedd i gael ei gladdu.

Mae l么n gul gyferbyn 芒 Thafarn y Gors sy'n arwain at bentref hynafol Llanfihangel y Creuddyn, neu Lanfihangel Gelynrhod, i roi'r enw gwreiddiol. Dywed Brut y Tywysogion, 'Yn y flwyddyn 1254 y bu farw Gwenllian merch Maelgwn Ieuanc yn Llanfihangel Gelynrhod a chladdwyd hi ym Mynachlog Ystrad Fflur. Enw arall arni yw Llanfihangel Gelli Moch.

Llanfihangel y Creuddyn

Canolbwynt y pentref yw'r eglwys, sy'n perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg. Yr adeg honno Llanfihangel oedd canolfan cwmwd Creuddyn, lle roedd ffordd Rufeinig o'r De i'r Gogledd yn dod o'r gaer yn y Trawsgoed, yn dringo trwy goed Tanrallt ac i lawr Rhiw Harri, cyn croesi afon fechan Ceunant a'r dyffryn a dringo rhiw Sarnau cyn disgyn yn y pen draw i Riwarthen.

Gwelodd William Lewis Evans gof Llanfihangel, fod angen aradr llai o ran maint ar ffermwyr yr ardal, aradr a fyddai'n haws i'w thrin ar y llechweddau. Aeth ati i gynllunio a ffrwyth ei lafur yw 'aradr fai' neu 'aradr' Llan'i'ngel'. Mae enghraifft o'r aradr hon yn Amgueddfa Sain Ffagan.

Y tu allan i'r pentref safai plasdy bach Abertrinant, cartref teulu Lloyd, ond bellach nid oes dim ohono ar 么l ond yr enw sydd ar ffermdy cyfagos. Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae pentref bychan Cnwch Coch, casgliad o dai pridd sgwatwyr yn wreiddiol, gyda chapel y Wesleaid, Carmel, ar ben y bryn a chapel y Methodistiad Calfinaidd yn Rhydyfagwyr ar waelod y rhiw.

Cymerwn y ffordd o Lanfihangel y Creuddyn trwy Gwm Magwr at Fwlch Crwys a dyma ni unwaith eto yng nghwm afon Rheidol.

Y tro hwn cymerwn y ffordd i Ddyffryn Castell sy'n troi i'r chwith o Hafod Arms. Tua 1810 gwnaeth Thomas Johnes, sgweier yr Hafod, ffordd newydd o'r Hafod Arms i fyny hyd Yr Arch ac i ymuno 芒'r hen ffordd dyrpeg sy'n arwain i Gwmystwyth. Ef hefyd fu'n gyfrifol am drefnu codi Yr Arch wedi ei chodi i Jiwbili Sior III.

Eglwys yr Hafod

I lawr yr allt i Gwmystwyth. Ar y dde mae Eglwys yr Hafod, neu Eglwys Newydd. Adeiladwyd yr eglwys gyntaf gan Morgan Herbert yn 1620, a'r un bresennol gan Thomas Johnes. Daeth hwnnw i'r plas yn 1783; roedd yn ddyn a chanddo amryfal ddiddordebau - g诺r bonheddig diwylliedig ei ddydd - roedd yn Aelod Seneddol, yn gyrnol yn y milisia, roedd yn ymh茅l ychydig 芒 gwyddoniaeth, yn noddi celfyddyd - bu'n cyfieithu croniclau Ffrangeg Froissart i'r Saesneg a chodi gwasg yn Hafod er mwyn argraffu'r cyfieithiad ac adroddiadau dwyieithog Y Gymdeithas er cefnogi Hwsmoniaeth a Diwydrwydd yn Sir Aberteifi.

Roedd ganddo lyfrgell werthfawr a chyfrolau hen a phrin ynddi - bu Iolo Morgannwg yma droeon yn cop茂o rhai o'r llawysgrifau prin. Fe wnaeth waith mawr fel arloeswr amaethyddol. Mynnodd drin y fferm yn 么l y syniadau diweddaraf gan brynu llawer o offer newydd. I raddau gellid honni bod y Weinyddiaeth Amaeth yn sicrhau dilyniant i waith amaethyddol Johnes yng Nghanolfan Arbrofi ADAS ym Mhwllpeiran gerllaw.

Plannodd Thomas Johnes rai miloedd o goed ar y tir na ellid ei drin i gynhyrchu cnydau. Llosgwyd ei blas yn 1807 ond fe'i hailadeiladwyd. Ond lle trist oedd Yr Hafod i Thomas Johnes; collodd ei fab yn ifanc a bu farw ei ferch, Mariamne, yn 27 mlwydd oed. Mae cerflun o Mariamne a'i rhieni galarus yn yr Eglwys, ond difrodwyd hwnnw pan aeth yr eglwys ar d芒n yn 1932. Does dim ar 么l o'r plas; chwythwyd i fyny weddillion y plasdy yn 1958.

Roedd gwaith mwyn enfawr ar lechweddau Cwmystwyth ac, yn 么l un hen fwynwr fu'n gweithio yno, roedd fel mynd i fewn i ogof Aladdin: roedd y mwynau yn y cerrig yn pefrio mor lliwgar yn y tywyllwch. Mae'r tai oedd yn lletya'r gweithwyr yn prysur ddiflannu, ond erys y tomenni sbwriel yn atgof o'r cyfoeth a'r prysurdeb a fu.

Am gyfnod maith, amaethyddiaeth a mwyngloddio oedd prif ddiwydiant yr ardaloedd. Yna daeth y Comisiwn Coedwigaeth i blannu coed.

Melinau Gwynt

Erbyn heddiw daeth newid arall a phwyslais ar godi melinau gwynt i gynhyrchu trydan heb ddim perygl i'r amgylchedd. Mae'r coedwigoedd a blannwyd dros hanner can mlynedd yn 么l yn cynnig cyfleusterau parod i ddatblygu llwybrau ar gyfer hamdden a mwynhad, tra bod y llynnoedd, y gronfa dd诺r, afonydd a'r nentydd yn cynnig cyfleoedd anghymharol i bysgotwyr. Mae'r ardal yn fecca i'r sawl sy'n gwylio adar, yn enwedig y cudyll coch.

Dyma ni wedi cwmpasu bro hynod a hanesyddol. Dewch i'w gweld - mae ganddi gymaint i'w gynnig.

gan Eirionedd Baskerville


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.