主播大秀

Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Bwthyn Swtan

23 Mawrth 2009

Y boblogaeth a'r economi

Yn 1536 roedd tua 278,000 o bobl yn byw yng Nghymru. Cynyddodd y nifer i tua 360,000 yn 1620 ac i oddeutu 500,000 erbyn 1750. Y prif resymau am y cynnydd oedd y dwys芒d mewn setliad gwledig, y cynnydd mewn masnach am fod bywyd yn fwy sefydlog, a'r amrywiaeth cynyddol yn natur gweithgarwch economaidd. Yn ganolog o hyd i'r economi roedd magu gwartheg a defaid a phrosesu eu cynnyrch, er bod gweithfeydd plwm a glo, smeltio haearn a llu o grefftau a galwedigaethau eraill yn cynnig cyfleoedd economaidd newydd hefyd.

Rhaniadau dosbarth

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y boblogaeth yn 么l pob tebyg yn cynyddu'n gyflymach na'r economi, ac o ganlyniad fe ddirywiodd safonau byw'r bobl. Gwnaed y sefyllfa'n waeth gan chwyddiant - pedryblodd prisiau rhwng 1530 a 1640 - a chan y ffaith bod twf stadau'r boneddigion yn golygu bod trwch y boblogaeth yn ddi-eiddo.

Yn 么l pob tebyg, roedd tua 30% o boblogaeth Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn druenus o dlawd. Trigent mewn hofelau un ystafell, heb na ffenestr na simnai, ac roeddynt yn atebol i Statud y Llafurwyr (1563), a oedd wedi'i seilio ar y rhagdybiaeth bod y di-eiddo yn brin eu hawliau. Oherwydd pryder y gallai'r sefyllfa greu ansefydlogrwydd, pasiwyd Deddf y Tlodion yn 1601 gan roi hawl i awdurdodau'r plwyf godi trethi i gynnal y tlodion, i drefnu prentisiaeth i blant amddifad ac i gosbi 'cardotwyr holliach'. M芒n ffermwyr a thyddynwyr oedd hanner y boblogaeth.

Yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol, megis Bro Morgannwg, gallai tyddynnwr fyw yn eithaf cyfforddus, ond yn ystod cyfnodau o newyn megis 1585-7, 1593-7 a 1620-23 roedd llawer yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Roedd y dosbarth proffesiynol - y masnachwyr, y crefftwyr mwyaf sylweddol a'r iwmyn - yn cynrychioli tua 15% o'r boblogaeth ac roedd p诺er y dosbarth hwn ar gynnydd.

Erbyn y ddeunawfed ganrif roedd dosbarth canol sylweddol o ddoctoriaid, asiantwyr tai, cyfreithwyr a swyddogion y llywodraeth, ac roedd y tai a godwyd ar eu cyfer yn nodwedd ddeniadol o drefi Cymru. Roedd y mwyaf llwyddiannus - cyfreithwyr yn fwyaf arbennig - yn ceisio dyrchafu eu hunain ac ymuno 芒'r 5% oedd yn berchnogion tir. Roedd gan aelod o'r dosbarth bonheddig ddulliau amrywiol o ymgyfoethogi: gallai briodi etifeddes; gallai gronni arian trwy swydd weinyddol, ffafr frenhinol, menter fasnachol, disgleirdeb cyfreithiol, neu - fel smyglwr neu f么r-leidr - trwy dorcyfraith herfeiddiol.; gallai dorri ysbryd gwrthwynebwr llai goludog trwy gyfreitha didostur; gallai drawsfeddiannu eiddo'r Eglwys neu'r goron; gallai feddiannu tir y distadl trwy fygylu noeth. Defnyddiwyd pob un o'r dulliau hyn yng Nghymru, ac roeddynt yn effeithiol, fel y tystia'r twf yn incwm y sgw茂eriad mwyaf llwyddiannus.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif, roedd ugain o deuluoedd Cymreig yn berchen ar o leiaf ugain mil o erwau'r un, a pherchennog y stad helaethaf, teulu Williams Wynn o Wynnstay ger Wrecsam, 芒 stad o 150,000 o erwau.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.