主播大秀

Cynhanes Cymru

Plac Efydd o Lyn Cerrig Bach, Ynys M么n 漏 NMGW

08 Rhagfyr 2008

Y Celtiaid

Mae pob tystiolaeth yn dangos bod trigolion Cymru - a thrigolion gweddill deheudir Prydain - erbyn y ganrif gyntaf OC yn siarad Brythoneg, iaith Geltaidd a berthynai'n agos i Galeg Gwlad G芒l. Roedd agweddau eraill o'r gymdeithas Frythonaidd - haenau'i dosbarthiadau, er enghraifft, a chredoau a defodau ei hoffeiriadaeth - hefyd 芒 chysylltiad 芒 Gwlad G芒l. Darfu i hynny, ynghyd ag arddull y gwrthrychau metel a luniwyd ym Mhrydain yr Oes Haearn, arwain at y ddamcaniaeth bod trigolion Cymru yng nghanrifoedd olaf y cyfnod cynhanesyddol yn aelodau o 'genedl' Geltaidd a drigai mewn bro eang a estynnai o Ddyffryn Afon Donaw i Sbaen.

Er nad oes unrhyw sicrwydd yngl欧n 芒'r modd y daeth y rhan helaethaf o Brydain yn Geltaidd o ran iaith, mae'r ffaith mai felly yr oedd hi yn fater o bwys canolog yn hanes Cymru. O'r Frythoneg y tyfodd y Gymraeg, iaith a fyddai, am bymtheg canrif a mwy, yn un o elfennau diffiniol trigolion Cymru.

Y Derwyddon

O holl agweddau diwylliant Celtiaid yr Oes Haearn, yr un sydd wedi denu'r sylw mwyaf yw r么l y derwyddon. Gan nad ysgrifennent ddim am eu crefydd, rhaid dibynnu ar sylwadau'r awduron clasuron, y rheini'n chwannog i bwysleisio'r erchyll a'r bis芒r. Ymddengys mai pantheistiaeth oedd hanfod crefydd y derwyddon, ac mae ambell i sylwebydd wedi gweld cysylltiadau rhyngddo a Hind诺aeth. Diau mai ymarfer defodau mewn union ffyddlondeb i draddodiad y tadau oedd y peth pwysicaf, a dichon mai ar ddysgu'r defodau y treuliai'r darpar dderwydd trwch ugain mlynedd ei brentisiaeth. Roedd aberth dynol yn rhan o'r grefydd. Wrth ddisgrifio ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys M么n, nododd yr hanesydd Tacitus bod allorau'r derwyddon yn gyforiog o waed.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.