主播大秀

Cenedl Newydd

Gwynfor Evans

23 Mawrth 2009

Protest

Yn eironig efallai, darfu i dwf sefydliadau cyfansoddiadol i Gymru gyd-fynd ag erydiad yr hyn a ystyrid yn nodweddiadol o arwahanrwydd Cymru. Dehonglwyd y bleidlais yn erbyn datganoli yn 1979 fel canlyniad proses o ymddiwylliannu - bod Cymru'n cael ei meddiannu gan werthoedd diwylliannol a chymdeithasol Lloegr. Credid mai un ffactor yn y broses honno oedd y mewnfudo o Loegr, yn enwedig i'r ardaloedd gwledig a threfi glan m么r y gogledd - datblygiad a arweiniodd at ymgyrch llosgi tai haf. Roedd pryder cynyddol oherwydd y lleihad yn y ganran a fedrai siarad Cymraeg, canran a ostyngodd o 29 yn 1951 i 18 yn 1991. Pryderon o'r math a arweiniodd at ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962, corff ag aelodau a oedd yn barod i dorri'r gyfraith er mwyn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg. Cyfrannodd ymgyrchoedd y Gymdeithas at nifer o ddatblygiadau, megis ffurflenni ac arwyddion ffyrdd Cymraeg, sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a gwneud y Gymraeg yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn y 1970au, creodd protestiadau gan y Gymdeithas ac eraill gonsensws o blaid sianel deledu Cymraeg, ond bu'n rhaid i Gwynfor Evans fygwth ymprydio cyn y sefydlwyd y sianel yn 1982. Yn rhyfedd braidd, darfu i ymgyrchoedd o'r fath beri i'r iaith fod yn llai o bwnc gwleidyddol; roedd dadleuon yngl欧n 芒'r Gymraeg yn ganolog yn refferendwm 1979, ond ni chawsant fawr o sylw yn refferendwm 1997.

Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd refferendwm 18 Medi 1997 yn ganlyniad parodrwydd y Blaid Lafur, a ffurfiodd lywodraeth ar 1 Mai 1997, i ailagor pwnc datganoli. Roedd yr etholiad yn orchest i'r Blaid Lafur. Enillodd fwyafrif o 179, ac o'r 40 sedd yng Nghymru, cipiodd 34, o gymharu 芒 4 i Blaid Cymru, 2 i'r Democratiaid Rhyddfrydol, a dim un i'r Blaid Geidwadol.

Roedd yr ymgyrch a arweiniodd at refferendwm 1979 yn wahanol iawn i ymgyrch 1979. Fe'i cynhaliwyd ar ddechrau llywodraeth dra phoblogaidd yn hytrach nag ar ddiwedd llywodraeth dan gwmwl. Roedd y ffaith y byddai gan yr Alban Senedd yn wybyddus wythnos cyn y pleidleisio yng Nghymru, ac felly doedd dim modd glynu at ryw status quo Prydeinig. Yn 1997, prif lefarydd ardaloedd mwyaf poblog Cymru oedd y datganolwr brwd, Ron Davies, gwrthgyferbyniad trawiadol gyda'r sefyllfa yn 1979, pan roedd y gwrth-ddatganolwr, Neil Kinnock, yn brif lefarydd yr ardaloedd hynny. Cafwyd cynnydd syfrdanol yn y bleidlais ie - +233% yng Ngwent, er enghraifft, a + 208% yn Ne Morgannwg. Eto i gyd, 芒'r bleidlais ie yn 559,319, a'r bleidlais na yn 552,698, cymeradwywyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 6,721 pleidlais yn unig.

Cynhaliwyd etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999, yn rhannol o dan system gynrychiolaeth gyfrannol. Aeth 28 sedd i'r Blaid Lafur, 17 i Blaid Cymru, 9 i'r Ceidwadwyr a 6 i'r Democratiaid Rhyddfrydol. 脗'r Ceidwadwyr heb yr un aelod o Gymru yn San Steffan, y Cynulliad oedd eu hunig lwyfan Cymreig; yn wir, efallai mai canlyniad mwyaf annisgwyl datganoli oedd y modd y twymodd y Ceidwadwyr at bynciau yn ymwneud 芒 Chymru. Llawn mor ddiddorol, o gofio record wael Cymru wrth ethol aelodau seneddol benywaidd, oedd y ffaith bod 24 o 60 aelod y Cynulliad yn fenywod.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.