主播大秀

Y Dywysogaeth Gymreig

Beddrod Siwan

23 Mawrth 2009

Cymru ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg

Ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, roedd y Mers, a defnyddio enwau'r hen siroedd, yn cynnwys rhannau o siroedd y Fflint a Threfaldwyn, y rhan fwyaf o siroedd Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg, bron y cyfan o Sir Fynwy, de Sir Gaerfyrddin, a thynnu at grynswth Sir Benfro. Prif deuluoedd y Mers yn y cyfnod hwnnw oedd Breos, Mortimer, Fitzalan a Marshal. Yn y Pura Walia, roedd gwyr amlwg y ddeuddegfed ganrif - Madog o Bowys, Owain o Wynedd a Rhys o Ddeheubarth - wedi marw. Rhannwyd Powys rhwng dwy gangen o ddisgynyddion Bleddyn ap Cynfyn. Enwyd y rhan ogleddol (Sir y Fflint, deheudir Sir Ddinbych a dwyrain Sir Feirionnydd) ym Mhowys Fadog, a'r rhan ddeheuol (Sir Drefaldwyn) ym Mhowys Wenwynwyn. Roedd Deheubarth ar fin ymrannu hefyd oherwydd rhai digon cecrus oedd meibion yr Arglwydd Rhys. Yng Ngwynedd, roedd Llywelyn, 诺yr Owain Gwynedd, ar fin adfer grym ei daid.

Llywelyn Fawr

Yn 1205, priododd Llywelyn 芒 Siwan (Joan), plentyn siawns John, Brenin Lloegr. Erbyn hynny, Llywelyn oedd yn ben yng Ngwynedd. Ymgyrchodd tua'r de gan gipio Powys Wenwynwyn a gogledd Ceredigion. Anfonodd John fyddin i Wynedd a llwyddodd Siwan i greu cymod rhwng ei thad a'i g诺r. Bu'n rhaid i John selio'r Siarter Fawr yn 1215, ac, oherwydd ei drafferthion, cafodd Llywelyn gyfle i gipio cestyll brenhinol, Caerfyrddin ac Aberteifi yn eu plith. Yn 1216, trefnodd gyfarfod o'r arweinwyr Cymreig yn Aberdyfi, lle derbyniwyd ef yn ben arnynt. Yn 1218, drwy Gytundeb Caerwrangon, cydnabyddodd Harri III, brenin Lloegr, ei safle. O hynny hyd ei farw yn 1240, ni fu fawr o her i'w rym.

Problem ei olynydd

Un mab - Dafydd - a ddeilliodd o briodas Llywelyn a Siwan. Roedd gan Lywelyn fab arall, Gruffudd, ond roedd yn benderfynol mai ei fab cyfreithlon a fyddai'n etifeddu ei rym. Cyn ei farw cydnabuwyd Dafydd fel etifedd ei dad gan y Pab, gan frenin Lloegr a chan y m芒n reolwyr Cymreig. Wedi marwolaeth Llywelyn, canfu Dafydd fod ei ewythr, Harri III, yn barod i'w dderbyn fel rheolwr Gwynedd, ond doedd y brenin ddim yn barod i ganiat谩u iddo'r cwbl o bwerau eu dad. Yn 1246, cyn i'r materion hyn gael eu datrys, bu farw Dafydd, yn ddi-blant. Etifeddwyd grym yng Ngwynedd gan feibion Gruffudd ap Llywelyn (m.1244). Ceisiodd Harri gyfyngu eu hawdurdod; ei fwriad oedd eu trawsnewid o fod yn rheolwyr cenedl i fod yn ddim amgen nag arglwyddi cyffredin yn nheyrnas Lloegr.

Llywelyn ap Gruffudd

Erbyn 1256, roedd Llywelyn, y mwyaf egn茂ol o feibion Gruffudd, wedi disodli ei frodyr. Rhoddodd gychwyn ar ymgyrchoedd tebyg i ymgyrchoedd ei daid. Enillodd gefnogaeth arglwyddi Powys Fadog, cipiodd Powys Wenwynwyn, a sicrhaodd bod awdurdod yn Neheubarth yn nwylo gwyr teyrngar iddo. Ac yntau'n arglwydd Pura Wallia, mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru. Ond er mwyn rhoi sylwedd llawn i'r teitl, roedd rhaid iddo ennill dylanwad ym Marchia Wallie hefyd. Yn 1263, arweiniodd ei luoedd i ganol y Mers a chafodd groeso gan Gymry Brycheiniog, y Fenni a Blaenau Morgannwg. Bu Gwrthryfel y Barwniaid yn Lloegr yn gymorth iddo. Arweinydd y gwrthryfel oedd Simon de Montfort, a ffurfiodd gynghrair 芒 Llywelyn yn 1264. Dair blynedd yn ddiweddarach, drwy Gytundeb Trefaldwyn, cydnabuwyd Llywelyn yn Dywysog Cymru gan Harri III. I'r Tywysog yr oedd y m芒n reolwyr Cymreig i wneud gwrogaeth, gyda'r Tywysog yn ei dro yn gwneud gwrogaeth i Frenin Lloegr ar ran crynswth Pura Wallia. Yn ogystal, enillodd Llywelyn reolaeth dros gadwyn o arglwyddiaethau yn ymestyn o ffiniau Powys i Frycheiniog, a chafodd awdurdod niwlog dros Gymry Blaenau Morgannwg a Gwent.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.