主播大秀

T芒n yn Ll欧n

top
Cofeb Penyberth

Roedd y brotest symbolaidd hon yn un o ddigwyddiadau hanesyddol pwysica'r ganrif yng Nghymru. Creodd y t芒n a'r carcharu a'i ddilynodd storm wleidyddol sydd 芒'i heffaith i'w theimlo hyd heddiw.

Y Tri

Ym mis Medi 1936, penderfynodd dri o lenorion mwyaf blaenllaw Cymru; Saunders Lewis, Llywydd Plaid Cymru a dau aelod blaenllaw arall o'r Blaid, y Parchedig Lewis Valentine, a DJ Williams, losgi'r Ysgol Fomio a'r maes awyr newydd oedd yn cael eu hadeiladu ym Mhenyberth ger Pwllheli. Roedd y safle yn cael ei greu fel rhan o baratoadau Prydain at yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Saunders Lewis yn gwrthwynebu'r Ysgol Fomio am resymau cenedlaethol, heddychlon ac amgylcheddol. Roedd e o'r farn bod Llywodraeth Lloegr o blaid troi un o gartrefi llenyddol a diwylliannol Cymru i fangre fyddai'n hyrwyddo modd barbaraidd o ryfela.

Ai yn ofer yr aberth, ai yn ofer y ffydd, y cawsai'r fflam ei hailgynnau rhyw ddydd? Ble mae'r t芒n a gynheuwyd gynt? Diffoddwyd gan y glaw a chwalwyd gan y gwynt?

Plethyn, 'T芒n yn Ll欧n'.

Roedd y llywodraeth Brydeinig eisoes wedi ceisio codi safle tebyg yn Northumberland ac yn Dorset ond fe ildiodd i brotestiadau a dadleuon gan naturiaethwyr a hynafiaethwyr lleol a hefyd ledled Lloegr. Gwrthododd y Prif Weinidog hyd yn oed dderbyn dirprwyaeth Gymreig, yn gwbl groes i'w agwedd tuag at y protestiadau yn Lloegr.

Ar 么l misoedd o brotestio heddychlon a cheisiadau gan sefydliadau Cymreig megis Eglwysi, Capeli ac ysgolion yn ymbil ar y llywodraeth i ail-ystyried, doedd dim yn tycio. Felly penderfynodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams weithredu'n uniongyrchol yn erbyn yr Ysgol Fomio newydd.

Ffermdy cyffredin oedd Penyberth i'r awdurdodau Prydeinig, ond i'r Cymry diwylliedig roedd ganddo le arbennig fel plasdy a fu'n gartref i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg yn Ll欧n. Ganed y reciwsant o Gymro ac awdur Cymraeg Robert Gwyn (tua 1540/1550 - 1592/1604) ym Mhenyberth. Cred rhai ysgolheigion mai ef yn lle ei gymrodor Gruffydd Robert oedd awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru.

Sefydlwyd is-bwyllgor cyfrinachol yn Ionawr 1936 i drefnu'r dinistr, ond Saunders Lewis ei hunan a wnaeth y trefniadau ymarferol, rhag i Blaid Cymru fel corff gael ei chyhuddo o gynllwyn.

Ar Medi'r 7fed, cyfarfu Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J. Willliams yng ngwesty'r "Victoria" ym Mhorthaethwy i drafod y trefniadau terfynol. Yn ei gar, roedd gan Saunders 10 galwyn o betrol a 3 chwistrell efydd. Lluniodd y tri ohonynt lythyr i'r Prif Gwnstabl yn cyfaddef eu gweithred ac yna aethant draw i L欧n, gan adael copi o'u llythyr a lythyr o esboniad yn swyddfa'r Blaid yng Nghaernarfon.

Aethpwyd 芒'r tri i'r llys yng Nghymru i gychwyn, ond methodd rheithgor yng Nghaernarfon ddod i benderfyniad. Ond cawsant eu dedfrydu i garchar yn Wormwood Scrubs mewn llys yn Llundain. Ceisiodd y tri gyflwyno eu hachos trwy gyfrwng y Gymraeg yn y llys Seisnig ond cawsant ymateb dirmygus iawn. Cododd hwn gwestiynau am statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg gan sbarduno'r ymgyrch dros ddiogelu'r Iaith yng Nghymru.

Achosodd y digwyddiad rwyg difrifol yn y gymuned leol fodd bynnag. Roedd deiseb gyda 5000 o lofnodion arni yn cefnogi gweithred Lewis, Valentine a Williams. Ond yn y dre ei hun ym Mhwllheli, roedd pethau'n wahanol. Roedd yn dioddef yn enbyd o'r diweithdra a dirwasgiad y 1930gau ac eisiau gwaith yn yr Ysgol Fomio.

Aberthodd y tri lawer dros yr achos hwn. Collodd Saunders Lewis ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Brifysgol yn Abertawe pan dedfrydwyd y tri am 9 mis o garchar yn Wormwood Scrubs. Ymddiswyddodd o lywyddiaeth Plaid Cymru a chefnodd ar fywyd cyhoeddus a throi at ysgrifennu'n amser llawn.

Pamffled
Pamffled Penyberth

Gw锚l llawer hon fel gweithred ddewr a phwrpasol a siglodd y sefydliad Prydeinig i'w seiliau. Pan gawsant eu rhyddhau ar 27 Awst 1937 roedd torf o dros bymtheg mil yng Nghaernarfon yn eu croesawu yn 么l i Gymru ac hyd heddiw mae'r tri yn arwyr yn llygaid llawer o Gymry.

Cyhoeddwyd pamffled enwog 'Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio' (1937) gan Blaid Cymru i ddathlu rhyddhau "Y Tri" ac ystyrir anerchiad gwleidyddol Saunders Lewis yn y llyfryn yn un o'r pwysicaf yn hanes Cymru. Cyhoeddwyd pamffled arall, 'Coelcerth Rhyddid' yn ogystal, a gafodd ei dosbarthu i'r cefnogwyr a'r cyhoedd ar 27 Awst, 1937.

...Argyhoeddiad erchyll y byddai gwersyll bomio'r Llywodraeth Seisnig yn anelu'n farwol at un o aelwydydd hynafol y diwylliant Cymraeg.

Saunders Lewis

Ni chafodd Plaid Cymru lwyddiant etholiadol yn dilyn y weithred ond yr effaith mwyaf oedd cynyddu'r syniad o ymwybyddiaeth gwleidyddol o Gymreictod ymysg y Cymry yn hytrach na ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn unig.

Mae yna nifer o weithiau llenyddol ag ysbrodolwyd gan y digwyddiadau ym Mhenyberth, ymhlith yr enwocaf, c芒n Plethyn, T芒n yn Ll欧n' a'r darn barddoniaeth gan Waldo Williams i'w gyfaill D.J. yn frathog fedrus:

"...Er mwyn hyn, i'r mannau od' (sef y carchar), a hyn oherwydd Penyberth, 'y berth lle bu/Disgleirwaith England's Glory'."

Ond beth am Penyberth ei hun? Gwerthwyd y tir a daeth yn eiddo i amaethwyr. Chwalwyd yr hen blasty yn 1936 i wneud lle i'r ysgol fomio. Erbyn hyn mae'r ysgol fomio wedi hen fynd hefyd a cheir maes carafannau a chwrs golff naw twll ar y safle. Saif cof-golofn i Dri G诺r Penyberth ger y t欧 heb fod ymhell o Benrhos yn Ll欧n a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.